Data Loading...
Donor Report 2020 CYM
44 Downloads
6.01 MB
Twitter Facebook LinkedIn Copy link
RECOMMEND FLIP-BOOKS
Donor Report 2020 Eng
Conservative partisans supported a Covid-19 mitigation policy more when it came from their own party
Donor Impact Report 2020
fortnightly on 16 different projects supported by 47 staff. Volunteering and fundraising activities
2022 Donor Impact Report
Walks connecting our community nationwide in 2021. ZERO — The End of Prostate Cancer is the leading
Sail Magazine 2020 [CYM]
proffiliau 6. MANUEL NICHOLAUS MSc Dyframaeth. 1. BRONWEN WINTERS BA Astudiaethau Americanaidd.
2022 Donor Impact Report (Spanish)
carreras de manera combinada, en persona y virtuales, que conectaron a nuestra comunidad en todo el
Momentum Magazine Autumn 2020 CYM
2 | Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe C R Y N O D E B O ’ R N E W Y
Iowa Donor Network's 2020 Impact Report
Iowa Donor Network's 2020 Impact Report 2020 IMPACT REPORT WHAT A YEAR! I FROM OUR CEO AND BOARD
2020 Student Scholarship Donor Recognition
KSU Foundation Graduate Scholarship. It means so much to me to have support as I continue my educati
BottomLine Donor Pitch Deck
BottomLine Donor Pitch Deck Get In. Graduate. Go Far. We fight educational inequity by ensuring that
Eteck_impact report 2020
Zwolle weq: 505 *woningequivalenten onder contract voor realisatie en exploitatie 12 13 Eteck | 20 j
ADRODDIAD I RODDWYR
EICH CEFNOGAETH: EIN DIOLCH. 2020
1,135 CYFANSWM Y RHODDWYR
£1,430,309 RHODDION ARIANNOL A DDERBYNIWYD
855 POBL SY’N RHOI AM Y TRO CYNTAF 1.06% CANRAN Y
100% CANRAN EICH
CYN-FYFYRWYR SY’N RHOI RHODDION A’CH RHODD CYMORTH A WARIWYD AR YR ACHOS O’CH DEWIS 0% Y FFI WEINYDDOL YR YDYM YN EI ‘BRIGDORRI’ O’CH RHODD 17 NIFER Y PROSIECTAU A ARIANNWYD GAN RODDION NA FYDDENT WEDI CYCHWYN FEL ARALL 19 OEDRAN Y RHODDWR IEUENGAF 92 OEDRAN Y RHODDWR HYNAF 55:45 CYMHAREB RHODDWYR GWRYWAIDD: BENYWAIDD 32 NIFER Y GWLEDYDD YR YDYM WEDI DERBYN RHODDION GANDDYNT 614 NIFER YR ORIAU GWIRFODDOLI 136 NIFER Y
GWIRFODDOLWYR
CROESO Annwyl gyn-fyfyrwyr a chyfeillion,
Yn ogystal â’n gweithgaredd sy’n ymwneud â Covid-19, mae ymchwilwyr a staff ein Prifysgol wedi parhau i ganolbwyntio ar heriau mawr, mwy hirdymor ein byd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae rhoddion gan gyn- fyfyrwyr a chyfeillion wedi cefnogi nifer o brosiectau sy’n ymdrin â rhai o broblemau mwyaf cymhleth y byd, megis colli bioamrywiaeth, newid hinsawdd, a gwella cysylltiadau hiliol. Mae rhai o’r prosiectau gwych hyn wedi’u cynnwys yma hefyd. Yn olaf, hoffwn ddiolch o galon i’n gwirfoddolwyr. Maent wedi rhoi amser sy’n werthfawr dros ben, yn enwedig i’n myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr ifanc y mae nifer ohonynt wedi elwa’n aruthrol o’r gefnogaeth hon yn ystod cyfnod mor anodd. Gobeithiaf, er enghraifft, y cewch eich ysbrydoli fel y gwnes i, gan dystlythyr ein gwirfoddolwr a chyn-fyfyriwr a raddiodd ym 1982, Sandeep. Diolch eto am eich cefnogaeth wych, sydd wedi bod mor hanfodol i ni eleni. Gobeithiwn yn fawr y gallwn weld nifer ohonoch eto yn fuan ac yn y cyfamser, gobeithiaf y byddwch chi a’ch teuluoedd yn cadw’n ddiogel ac yn iach
Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anhygoel i bawb. Mae cychwyniad pandemig byd-eang, a’i effeithiau parhaus a deimlir ledled y byd ac ar gymaint o agweddau o’n bywydau, wedi trawsnewid y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio gyda’n gilydd. Rydym ni, fel sawl sefydliad arall, wedi dibynnu’n fawr ar nerth ein cysylltiadau wrth i ni addasu i’n byd newydd, mwy rhithwir. Yn ystod blwyddyn ein canmlwyddiant, mae wedi bod yn ddefnyddiol gallu edrych yn ôl ar dros ganrif o hanes ein gwydnwch yn wyneb adfyd. Er gwaetha’r heriau, rwy’n hynod falch o gymuned Prifysgol Abertawe a’n hymateb ni i ddigwyddiadau 2020. Mae ein safle fel sefydliad ymchwil arweiniol wedi ein galluogi i gefnogi ymatebion cenedlaethol a rhyngwladol i Covid-19, o archwilio triniaethau meddygol newydd, i ddarparu tystiolaeth a deallusrwydd sy’n hysbysu polisïau ac yn mynd i’r afael ag effeithiau’r feirws ar ein cymdeithas. Rwyf yr un mor falch, o’n rhwydwaith gwych o gyn- fyfyrwyr a chefnogwyr, sydd wedi bod mor hael eu cefnogaeth, yn foesol ac yn ariannol, i waith y Brifysgol, ac rwy’n falch o allu rhannu cipolwg o’r gwaith hwnnw gyda chi yma. Mae hi wedi bod yn ysbrydoledig i weld yr holl ffyrdd y mae pobl wedi dod at ei gilydd i ymateb yn gadarnhaol a gyda phwrpas, ar lefel unigol ac ar y cyd. Mae eich rhoddion a’ch cefnogaeth chi yn rhan allweddol o’r ymdrechion hynny, wrth gyllido gwaith na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall, a helpu i sicrhau bod ein myfyrwyr mwyaf bregus yn derbyn cefnogaeth y Gronfa Galedi Myfyrwyr.
Yr Athro Paul Boyle Is-ganghellor
EIN HYMATEB I’R CORONAFEIRWS Mae Prifysgol Abertawe ar flaen y gad o ran y gwaith ymchwil i lawer o agweddau ar bandemig y •
Datblygu gosodion copr gwrth-heintiol a hawdd i’w cynnal a chadw ar gyfer drysau mewn lleoedd clinigol Archwilio profiadau myfyrwyr parameddygol sydd wedi parhau â’u hymarfer clinigol yn ystod y pandemig
coronafeirws newydd. Gyda’ch cymorth chi, rydym yn gwneud popeth y gallwn i ddefnyddio ein harbenigedd a helpu i ddarparu atebion. Mae cyn-fyfyrwyr a chyfeillion Prifysgol Abertawe wedi cael effaith uniongyrchol a sylweddol ar rai o elfennau pwysig y gwaith hanfodol hwn. Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, rydych chi wedi ein helpu i ariannu prosiectau ymchwil, yn cynnwys • Astudio trallwysiadau gwaed plasma gan ddefnyddio rhoddion gan gleifion Covid-19 sydd wedi gwella, fel triniaeth ar gyfer achosion Covid-19 difrifol • Gwaith nodi a datblygu triniaethau newydd ar gyfer heintiau feirws, a gynorthwyir gan gyfrifiaduron • Ymchwilio i ledaenu gwybodaeth anghywir yn y cyfryngau cymdeithasol, a’i goblygiadau ar gyfer y pandemig
•
•
Dadansoddi agweddau ac ymddygiadau’r cyhoedd ynghylch cadw pellter cymdeithasol
• •
Meithrin ymatebion rhag-gymdeithasol i Covid-19
Cefnogi ein myfyrwyr drwy eu profiadau o’r pandemig
Darllenwch ragor er mwyn cael dealltwriaeth o rai o’r prosiectau hynod ddiddorol hyn.
plaid eu hun mewn cymhariaeth â’r blaid arall. Y rheswm dros hyn, yn rhannol, oedd ymddiried yn eich grŵp eich hun ac anymddiried ym mhobl y tu allan i’r grŵp. Yn bwysicach fyth, gwnaethant ddangos bod y cyhoedd yn cefnogi’r polisïau a gynigir gan arbenigwyr ac yn ymddiried ynddynt yn fwy nag y maent yn ymddiried ym mholisïau a gynigir gan y blaid o’u dewis. Mae hwn yn ganfyddiad pwysig,” meddai Dr Jiga-Boy, “oherwydd ei fod yn gwrthddweud y gred boblogaidd bod y cyhoedd cyffredinol ‘wedi cael digon ar arbenigwyr’. Mewn gwirionedd, yn ystod adegau o argyfwng fel hyn, mae’n dangos efallai y bydd y “Ymdrech anhygoel gan y gr ^ wp yw’r prosiect hwn, ar y cyd â chydweithwyr o brifysgolion ledled y byd,” meddai Dr Jiga-Boy.“Derbyniais £3,672 gan Gronfa’r Angen Mwyaf Prifysgol Abertawe, y gwnaethom ei ddefnyddio ym mis Ebrill 2020 er mwyn talu cyfranogwyr ar gyfer un arbrawf a gynhaliwyd yn yr UD 1 a dwy astudiaeth yn y DU 2 .Cafodd y protocol, y deunyddiau a’r cynllun dadansoddi >Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15
www.swansea.ac.uk
Made with FlippingBook - Online magazine maker