Data Loading...
Sail Magazine 2020 [CYM]
16 Downloads
11.45 MB
Twitter Facebook LinkedIn Copy link
RECOMMEND FLIP-BOOKS
SAIL CYLCHGRAWN I GYN-FYFYRWYR 2020 Mae’r ysbrydolwr Instagram, sylfaenydd busnes ioga a’r Chwaraewr Rygbi Rhyngwladol
yn sôn wrthym sut y gwnaeth hi gadw’r genedl i symud yn ystod y cyfnod clo.
PROFFILIAU CYN-FYFYRWYR
RHANNU LLUNIAU VARSITY RHITHWIR
EIN BRWYDR YN ERBYN COVID
© Ffotograffiaeth Cwm Calon
CROESO I RIFYN Y CANMLWYDDIANT O’N CYLCHGRAWN I GYN-FYFYRWYR,
Ledled y byd, mae’r argyfwng coronafeirws (Covid-19) wedi newid y ffordd rydym yn byw ac yn gweithio gyda’n gilydd. Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym wedi galw ar 100 mlynedd o wydnwch, arloesedd a chydweithrediad er mwyn ymaddasu, ac i gyfrannu at yr ymdrechion cenedlaethol a rhyngwladol i ymateb i’r argyfwng. Mae ein staff, ein myfyrwyr a’n partneriaid yn cydweithio i gefnogi’r gofynion logistaidd ar ein hisadeiledd gofal iechyd. Rydym wedi defnyddio ein hargraffyddion 3D o’r radd flaenaf er mwyn cynhyrchu feisorau ac amddiffynwyr wyneb, ac rydym wedi newid un o’n labordai solar i gynhyrchu 5,000 litr o hylif diheintio dwylo bob wythnos i gyflenwi’r GIG yn lleol. Mae tîm o’n myfyrwyr wedi datblygu triniaeth newydd i ryddhau nwy’n sydyn i ddiheintio ambiwlansys, a allai gael gwared ar Covid-19 o’r arwynebau a’r awyr o fewn llai nag 20 munud yn hytrach na 45 munud, heb angen i berson wneud unrhyw waith glanhau. Mae ein hymchwilwyr o’r radd flaenaf yn modelu effeithiau cymdeithasol, economaidd a seicolegol yr argyfwng ar ein bywydau. Rydym yn archwilio effeithiau’r pandemig ar iechyd meddwl, gan ystyried effaith hirdymor y mesurau cadw pellter cymdeithasol a chynnig cymorth lles i’r rhai y mae ei angen arnynt fwyaf. Rydym yn modelu amgyffred y cyhoedd o’r ap ar gyfer ffonau clyfar i olrhain cysylltiadau o ran Covid-19, ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddeall effaith Covid-19 ar
weithgarwch corfforol a lles pobl ar adegau gwahanol y cyfyngiadau symud yn y DU. Mae ymateb ein staff, ein myfyrwyr a’n partneriaid i’r argyfwng hwn wedi bod yn ysbrydoledig, gan adeiladu ar ganrif o effaith gadarnhaol a gweithredoedd pwrpasol. Felly, rwyf wrth fy modd bod rhifyn y Canmlwyddiant o SAIL yn cynnig cyfle i dynnu sylw at draddodiad hir y Brifysgol o gefnogi datblygiad myfyrwyr ysbrydoledig a thalentog, drwy ddangos detholiad o’n cyn-fyfyrwyr a’u cyflawniadau. Er bod gennym lawer mwy o gyn-fyfyrwyr talentog nag y gallem obeithio eu cynnwys mewn un cylchgrawn, mae’r casgliad hwn yn rhoi cipolwg sy’n adlewyrchu pa mor amrywiol y bu llwyddiant ein cymuned o gyn-fyfyrwyr, ym meysydd ymchwil, chwaraeon, entrepreneuriaeth, cyfraniad at y gymdeithas a gweithredu cymdeithasol. Mae talent ac amrywiaeth ein cymuned o gyn-fyfyrwyr yn destun balchder mawr i’n Prifysgol, wrth i’n cyn-fyfyrwyr barhau i gyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithasau ledled y byd. Wrth i ni ddechrau ein hail ganrif fel Prifysgol, rwy’n ffyddiog y byddant yn cynnal y traddodiad hwn, gan barhau i ymateb i heriau byd-eang cyfoes fel llysgenhadon balch dros ein Prifysgol. Is-Ganghellor
03. Eich Cefnogaeth, Ein Diolch 04. Ein Hymateb
01. Cyswllt Prifysgol Abertawe 02. Digwyddiadau’r Canmlwyddiant
PRIFYSGOL ABERTAWE
I’r rhai ohonoch sydd heb gofrestru, Swansea Uni Connect yw eich cymuned ar-lein unigryw. Fel aelod gwerthfawr, rydym yn eich gwahodd i ymuno heddiw a dechrau mwynhau budd rhwydwaith eang ac amrywiol o gysylltiadau sydd oll yn rhannu’r profiad o fod ym Mhrifysgol Abertawe! Dwy funud sydd angen i gofrestru arno a hynny drwy LinkedIn fel bod eich gwybodaeth broffesiynol wedi’i chynnwys yn eich proffil ar y platfform.
SwanseaUniConnect.com
Dyma fanteision cofrestru: 1. Ffrwd newyddion a swyddi wedi’i phersonoli. 2. Cyfleoedd i fentora a gwirfoddoli, neu gael help, cyngor a chymorth y gall fod eu hangen arnoch. 3. Trefnu cyfarfodydd gyda gweithwyr proffesiynol yn eich diwydiant er mwyn rhwydweithio, rhannu cyngor, mentora a mwy. 4. Dod o hyd i hen ffrindiau a chyd-fyfyrwyr. Mae Swansea Uni Connect yn rhoi man arbennig i chi allu cadw cysylltiad â’ch rhwydwaith Prifysgol Abertawe a chael gwybod y diweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn y Brifysgol.
Golygyddion : Rachel Thomas, Gerard Kennedy, Ffion White & Sioned Williams. Dylunio gan : IconCreativeDesign.com
RHANNWCH PROFIAD ABERTAWE:
Lawrlwythwch yr ap Android: “Swansea Uni Connect” Apple: “Graduway Community” – rhowch “Prifysgol Abertawe” pan ofynnir
05. Aduniad 06-23. Proffiliau Cyn-fyfyrwyr
01
DIGWYDDIADAU’R CANMLWYDDIANT
YMRWYMEDIG I OFALU AM EIN CYMUNED
2020 oedd y flwyddyn roedd y Brifysgol i fod i ddathlu ei chanmlwyddiant. Fodd bynnag, mae effeithiau rhyfeddol a distryw’r pandemig ar draws y byd wedi cymryd blaenoriaeth, yn ddigon teg, eleni. Ers agor ein drysau 100 o flynyddoedd yn ôl, rydym wedi arloesi, cydweithio a thyfu i fod yn gampws deuol, yn sefydliad o’r radd flaenaf sy’n gwasanaethu ei gymuned, yn addysgu ei bobl, yn mynd i’r afael â phroblemau byd-eang ac yn darparu cartref i lawer. Mae ein llwyddiannau wedi effeithio ar y byd mewn sawl ffordd, ac rydym yn hynod o falch o fod wedi cyrraedd y garreg filltir bwysig hon yn ein hanes cyfoethog. Yn anffodus, ni allwn ddathlu’r cyflawniadau hyn yn y ffordd a fwriadwyd gennym, felly rydym yn awr wedi gwneud y penderfyniad anodd i ohirio pob digwyddiad canmlwyddiant corfforol yn 2020, ac yn eu lle, ynghyd â’r rhoddion hanfodol yr ydym yn eu derbyn gan ein cefnogwyr hael, mae £200,000 a neilltuwyd yn flaenorol ar gyfer ein dathliadau canmlwyddiant yn mynd tuag at ymladd Covid-19, cefnogi ein myfyrwyr, a gyrru arloesedd wrth i ni ddechrau ein 100 mlynedd nesaf. Er ein bod yn siomedig nad ydym yn dathlu’n bersonol gyda’n cyn-fyfyrwyr, ein staff, ein partneriaid, ein myfyrwyr a’n ffrindiau, rhaid sicrhau diogelwch ein cymunedau a chydnabod bod hwn yn gyfnod anodd iawn i lawer o deulu Abertawe. Felly, er mwyn diddanu a diweddaru ein cymuned Prifysgol Abertawe yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau ar-lein, gyda mwy ar y gweill.
Ar y 29ain o Ebrill, cynhaliwyd Varsity rhithwir. Roedd timau chwaraeon myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn cystadlu yn erbyn yr hen elynion o Brifysgol Caerdydd mewn amrywiaeth o heriau ar-lein, megis ‘Keepie Uppies’ gyda phêl rygbi, cic gosb chwil, sgwatiau a llawer mwy. Yn ystod y dydd, Abertawe oedd yn fuddugol o 17 – 14 gan gipio Coron y Varsity rhithwir. Uchafbwynt y diwrnod oedd cwis Varsity rhithwir dan arweiniad y chwaraewr rygbi o Gymru, Ryan Jones ac roedd hefyd yn cynnwys llu o gyn-fyfyrwyr a chyfeillion megis Liz Johnson, Paul Thorburn, Alun Wyn Jones, Michael Sheen, Max Boyce ac Eddie Izzard. Ar y 13eg o Fai, daeth cyn-fyfyrwyr ynghyd ar Swansea Uni Connect i rannu eu lluniau a’u hatgofion o’u hamser yn Abertawe. Yn ystod y digwyddiad, rhannwyd dros 350 o luniau – yn cwmpasu 100 mlynedd o Brifysgol Abertawe.
FE GODON NI
MEWN YCHYDIG DROS MUNUD
Gellir gweld yr holl luniau yn adran luniau ac albymau: SwanseaUniConnect.com Gwyliwch y fideo Varsity yma: Swan.ac/varsity-rhithwir EI WELD AR WAITH:
02
EIN DIOLCH.
Er bod Covid-19 wedi effeithio ar ein dathliadau, rydym wedi bod wrth ein bodd gyda’r ymateb i’n hymgyrch codi arian ar gyfer y canmlwyddiant. O ddarparu cyllid sbarduno ar gyfer ymchwil arloesol, i gefnogi ein myfyrwyr mwyaf agored i niwed, mae rhoddion gan ein cyn-fyfyrwyr a chyfeillion yn gwneud gwahaniaeth enfawr ar draws y Brifysgol a thu hwnt. A WNEWCH CHI ROI RHODD DRWY FYND I: swan.ac/rhoddwch-arian Bydd eich rhodd yn cael ei chyfeirio tuag at y mentrau mwyaf dirdynnol, taer a phwysig ym Mhrifysgol Abertawe. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth. Drwy ddal gafael yn ysbryd cyfunol teulu Abertawe, gallwn edrych ymlaen at ddyfodol disglair a llwyddiannus wrth i ni ddechrau ar ein 100 mlynedd nesaf. Os hoffech ddarllen mwy am ganmlwyddiant y Brifysgol, ein hanes, digwyddiadau arfaethedig a dyheadau’r dyfodol, gallwch ymweld â: swan.ac/2020
GRANTIAU CALEDI ARIANNOL
“Yn ystod fy ail flwyddyn yn y Brifysgol, collais fy swydd ran-amser a fy opsiynau gofal plant. Roeddwn yn ystyried gadael y Brifysgol ond yna clywais am y grantiau caledi a ariennir gan gyn-fyfyrwyr. Yn dilyn fy nghais, cefais wybod yr oedd yn llwyddiannus y diwrnod canlynol, ac roedd yr arian yn fy nghyfrif banc erbyn diwedd yr wythnos. Daeth y wobr hefyd gydag arbenigedd ac arweiniad sydd wedi bod yn amhrisiadwy i mi a’m teulu ac wedi fy ngalluogi i barhau fy ngradd.” – Unigolyn sydd wedi derbyn y grant caledi yn ddiweddar
03
YMCHWIL & NEWYDDION COVID
EIN BRWYDR YN ERBYN
BETH RYDYN NI WEDI BOD YN EI WNEUD:
• Mae timau o bob rhan o’r Brifysgol wedi dod at ei gilydd i gefnogi consortiwm sydd newydd ei sefydlu-SWARM (Consortiwm Gweithgynhyrchu Ychwanegion a Chyflym De Cymru) - yn ei chenhadaeth i gefnogi ymateb ‘ Covid-19 ‘ GIG Cymru. • Mae tîm o fyfyrwyr wedi datblygu triniaeth nwy gyflym newydd ar gyfer ambiwlansys, a allai gael gwared ar halogiad Covid-19 o arwynebau a’r aer, mewn llai nag ugain munud, hanner yr amser y mae’n ei gymryd fel arfer wrth ddefnyddio pobl i lanhau. • Mae ein myfyrwyr Nyrsio, Parafeddygaeth a Bydwreigiaeth wedi bod yn gweithio ar y rheng flaen gyda staff y GIG. • Mae grŵp o fyfyrwyr Meddygaeth Prifysgol Abertawe wedi bod yn cynnig gofal plant cymorth brys i staff hanfodol y GIG. • Mae tîm o feddygon a pheirianwyr o Abertawe wedi cynllunio peiriant anadlu newydd y gellir ei adeiladu’n gyflym o ddarnau lleol. Cyn hyn, roedd dyluniad peiriant anadlu yn y naill beth neu’r llall, ond nid y ddau. Yn hollbwysig, gellir defnyddio’r peiriant anadlu hyd yn oed ar gyfer cleifion â choronafeirws difrifol. • Mae’r Ysgol Feddygaeth a Choleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd hefyd wedi sicrhau bod eu hystafell sgiliau clinigol ar gael i’r bwrdd iechyd lleol.
Mae staff y Brifysgol wedi dod at ei gilydd i roi offer cyfarpar diogelu personol hanfodol i’r ysbyty lleol.
DARGANFYDDWCH FWY:
gweld sut mae’r Brifysgol yn cefnogi’r ymdrech fyd-eang: swan.ac/cy-covid19 #GydanGilydd #EinAbertawe
Mae myfyrwyr a staff yn defnyddio argraffwyr 3D o’r radd flaenaf y Brifysgol i gynhyrchu feisorau ac amddiffynwyr wyneb ar gyfer y GIG a gweithwyr rheng flaen.
04
Yn ystod y cyfnod anghyffredin hwn, mae ein staff a’n myfyrwyr wedi bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi’r frwydr yn erbyn Covid-19. Roeddem am ddefnyddio hwn fel cyfle i roi goleuni ar rywfaint o’r gwaith hanfodol hwn. Reunion YN DOD YN FUAN... Mae cynlluniau pawb ar gyfer 2020 wedi newid... yr oeddem i fod i gael Aduniad Canmlwyddiant: teithiau o amgylch y campws, hufen iâ Joe’s, taith i’r Mwmbwls, mynd am dro o gwmpas Parc Singleton a chinio mawreddog yn Nhŷ Fulton.
Mae darlithydd o Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, a’i gŵr wedi trawsnewid eu busnes jin i gynhyrchu hylif diheintio dwylo a gymeradwyir.
Mae Lab technoleg solar y Brifysgol, SPECIFIC, wedi newid dros dro i gynhyrchu 5000 litr yr wythnos o hylif diheintio dwylo, sy’n cael ei ddefnyddio gan y GIG lleol, cartrefi gofal a thimau tai rheng flaen.
NID YW’R DATHLIADAU WEDI’U CANSLO, DIM OND EU GOHIRIO. Bydd mwy o fanylion yn cael eu hanfon atoch cyn gynted ag y byddwn yn gallu trefnu digwyddiadau i bawb gael dod at ei gilydd. Os nad ydych wedi cael e-bost oddi wrthym ers amser, cadwch mewn cysylltiad a diweddarwch eich manylion yma:
swan.ac/diweddariad-gan-sail
05
PROFFILIAU CYN-FYFYRWYR
GYN-FYFYRWYR
SY’N YSBRYDOLI
Mae 2020 yn nodi canrif o gyn-fyfyrwyr sy’n ysbrydoli ar gyfer Prifysgol Abertawe. Rydym yn hynod falch o’n cyn-fyfyrwyr. Mae llawer yn mynd ymlaen i gyflawni llwyddiant mawr yn eu gyrfaoedd, mae rhai yn ennill cydnabyddiaeth ryngwladol ac mae llawer o rai eraill yn cyflawni llwyddiant mwy lleol. Maent i gyd ar frig y don. Maent yn rhagori mewn chwaraeon, yn dileu rhwystrau, yn herio stereoteipiau, yn rhoi llais i’r rhai dan orthrwm ac yn cyflawni ymchwil arloesol. Yn feddylwyr, yn freuddwydwyr ac yn weithredwyr - maent i gyd yn gyn-fyfyrwyr Abertawe.
Gallwch ddarllen y proffiliau llawn yma: swan.ac/proffiliau
6. MANUEL NICHOLAUS MSc Dyframaeth.
1. BRONWEN WINTERS BA Astudiaethau Americanaidd. Blwyddyn Graddio 2020. LLYSGENNAD YMGYRRAEDD YN EHANGACH. YMGYRCHYDD. 2. ANNABELLE APSION BA Drama a Saesneg. Blwyddyn Graddio 1984. ACTOR: SHAMELESS, CALL THE MIDWI FE, SOLDIER SOLDIER. 3. SAM BLAXLAND PhD Hanes. Blwyddyn Graddio 2017. AWDUR. ARWEINYDD TEI THIAU. HANESYDD. 4. PETER STEAD BA Hanes. Blwyddyn Graddio 5. JOANNE HILL BSc Nyrsio. Blwyddyn Graddio 2019. O GAETHIWED I SYLWEDDAU I NYRS. GWEDDNEWID EI BYWYD. 1964. AWDUR CYMREIG. DARLLEDWR. HANESYDD.
Blwyddyn Graddio 2008. BIOLEGYDD Y MÔR. DIOGELU
1
ECONOMÏAU MOROL, PYSGODFEYDD CYNALIADWY A DIOGELWCH BWYD. 7. GEOFFREY THOMAS BSc Ffiseg. Blwyddyn Graddio 1962. YSGOLHAIG. ADDYSGWR. 8. FIROUZEH SABRI BSc Ffiseg. Blwyddyn Graddio 1995. GWYDDONYDD DEUNYDDIAU. AELOD T ÎM PROSIECT GLANIO AR FAWRTH. MODEL RÔL . 9. NIA PARRY BA Sbaeneg a Chymraeg. Blwyddyn Graddio 1996. EIRIOLWR BRWD DROS YR IAI TH GYMRAEG, DARLLEDWR AC ADRODDWR STRAEON. 10. SIAN REYNOLDS LLB y Gyfraith. Blwyddyn Graddio 2002. LLONGWR. CYFREI THIWR.
2
3
11. MARIA MARLING BA Rheoli Busnes. Blwyddyn
4
5
6
Graddio 2012. CYD-SYLFAENYDD. FFATRI FEGAN GYNTAF CYMRU, SAVEG.
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16 19
17
18
20
21
22
12. BEN EVANS PhD Peirianneg
Awyrofod. Blwyddyn Graddio 2008. DEWIN AERODYNAMEG. CYTHRAUL CYFLYMDER. TORRWR RECORDIAU.
23
24
13. LYN EVANS
BSc a PhD Ffiseg. Blwyddyn Graddio 1966. ARLOESWR
MEWN FF ISEG. MAL IWR GRONYNNAU. HEL IWR YR HIGGS BOSON. 14. SHEKHAR DUTT PGDip Economeg Ddatblygu. Blwyddyn Graddio 1984. LLYWODRAETHWR. YSGRI FENNYDD AMDDI FFYN TO LLYWYDD CYMDEI THAS FRENHINOL CEMEG. 15. HANNAH LAMDEN BA Astudiaethau Americanaidd. Blwyddyn Graddio 2008. CYFARWYDDWR Y CYFRYNGAU: L I TTLE MIX, SIMON COWELL . 16. JONATHAN ELPHICK BSc Swoleg. Blwyddyn Graddio 1968. AWDUR HANES NATURIOL . ADAREGWR. 17. MICHELLE OWEN BA Iaith a Chyfathrebu. Blwyddyn Graddio 2011. SYLWEBYDD. CYFLWYNYDD. ANGERDDOL DROS BÊL -DROED. 18. AIMEE EHRENZELLER BSc Seicoleg, MSc Astudiaethau Cydymaith Meddygol. Blwyddyn Graddio 2019. ARWR GOFAL IECHYD.
25
19. ROGER PHILLIPS BSc Biocemeg. Blwyddyn Graddio 1977. ARWEINYDD BUSNES. YMGYNGHORWR. MENTOR. 20. ELOISE WILLIAMS
26
MA Ysgrifennu Creadigol a’r Cyfryngau. Blwyddyn Graddio 2011. AWDUR LLYFRAU PLANT. DEI L IAD CYNTAF Y TEI TL CHI LDREN’S LAUREATE WALES. BA Hanes. Blwyddyn Graddio 1999. ENI LLYDD GWOBR BAFTA. AWDUR. CYFARWYDDWR. ACTOR.
24. ALYS
THOMAS BSc Seicoleg. Blwyddyn Graddio 2015. DEI L IAD RECORD Y GYMANWLAD. 25. KIRITKUMAR LATHIA BSc Peirianneg Drydanol. Blwyddyn Graddio 1970. YN PENNU SAFONAU AR GYFER CYFATHREBU BYD-EANG. 26. ALISTAIR BARNES BSc Cemeg a Gwyddor Rheoli. Blwyddyn Graddio 1990. ARWEINYDD ELUSEN. DARPARWR CYFLEOEDD. ADEI LADWR CYMUNED.
21. JONNY OWEN
22. PAUL PINDAR BSc Seicoleg. Blwyddyn
Graddio 1981. ENTREPRENEUR. ARWEINYDD BUSNES CAPI TA.
23. LIAM DUTTON
BSc Daearyddiaeth. Blwyddyn Graddio 2002. DARLLEDWR. DYN TYWYDD. CERDDOR. ADDYSGWR.
07
PROFFILIAU CYN-FYFYRWYR
JASON MOHAMMAD
BA Cymraeg a Gwleidyddiaeth. Blwyddyn Graddio 1996. CYFLWYNYDD RADIO A THELEDU.
Mae gan Anne genhadaeth i weddnewid y sector bancio er mwyn darparu profiad gwell i gwsmeriaid. A hithau’n bennaeth banc sefydledig yn y DU, mae Anne hefyd yn eiriolwr pwerus dros benodi rhagor o fenywod i rolau blaenllaw mewn busnes. Beth wnaeth i chi benderfynu astudio Cyfrifiadureg a Chemeg yn Abertawe? Mae un o’r lluniau cynharaf sydd gen i o’m plentyndod yn fy nangos ym mreichiau fy nhad wrth iddo sefyll y tu allan i gampws Prifysgol Abertawe. Ces i fy ngeni a’m magu yn y ddinas ac roedd pawb yn falch iawn o’r brifysgol. Roeddwn i wedi penderfynu astudio meddygaeth ac roeddwn i’n bwriadu teithio ymhellach am fy ngradd. Doedd fy nghanlyniadau Safon Uwch ddim cystal ag roeddwn i’n gobeithio, felly treuliais i fore hir ar y ffôn yn siarad â phrifysgolion amrywiol i weld beth oedd ar gael. Yn y diwedd, ces i sgwrs â rhywun yn Abertawe a soniodd am radd mewn Cyfrifiadureg a’r eiliad clywais i hynny, roeddwn i’n meddwl dyna’r hyn dwi eisiau ei wneud. Roedd yn cyfuno popeth roeddwn i’n ymddiddori ynddo a byddai’n rhoi cyfle i mi ddysgu sgiliau newydd hefyd.
Pam dewisoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe a pham astudio’r Gymraeg a Gwleidyddiaeth? Roeddwn i’n gwybod bod gan Brifysgol Abertawe adrannau Cymraeg a Gwleidyddiaeth gwych, felly roeddwn i eisiau astudio yno er mwyn cael fy nysgu gan y gorau. Hefyd, roedd apêl Penrhyn Gŵyr a’r traethau gerllaw yn atyniad enfawr. Beth yw eich prif atgofion o fod yn fyfyriwr yn Abertawe? Cael fy nysgu gan ddarlithwyr cwbl ragorol, y ffrindiau a wnes i yn y brifysgol a’r llu o weithgareddau chwaraeon y gwnes i gymryd rhan ynddynt. Beth yw eich atgofion o fod yn fyfyriwr Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe? Ym Mhrifysgol Abertawe y tyfodd fy hyder fel dysgwr Cymraeg. Rwy’n cofio’r cawr o ddarlithydd, Hywel Teifi Edwards, yn ein hannog ni i gyd i ddefnyddio ein sgiliau llafar Cymraeg. Ni welodd unrhyw wahaniaeth rhwng myfyrwyr Cymraeg ‘iaith gyntaf’ a “dysgwyr ail iaith”. A dyna lle y cafodd fy hyder ei fethrin.
Pam dewis gyrfa mewn darlledu? I fod yn berffaith onest, dyna’r unig beth roeddwn i eisiau ei wneud. Roeddwn i’n arfer chwarae recordiau Queen, ABBA a 10cc pan oeddwn i’n ddim ond pum mlwydd oed, felly roedd yn anochel y byddwn yn mynd i weithio i BBC Radio 2 a BBC Radio Wales! Roeddwn i hefyd yn arfer sylwebu ar gemau fideo ‘nôl yn yr 1980au - gemau fideo chwaraeon – felly mae’n debyg nad oedd gyrfa mewn chwaraeon teledu yn gam annisgwyl chwaith. A wnaeth eich cyfnod yn y Brifysgol eich helpu i gychwyn gyrfa mor llwyddiannus mewn darlledu ydych chi’n meddwl? Yn sicr. Fe wnes i gyfarfod â chynghorydd gyrfaoedd, Mr Hugh Jones, pan oeddwn yn ymgeisio am gwrs ysgol newyddiaduraeth Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac fe anogodd fi i fynd amdani. Enillais ysgoloriaeth gyda BBC Cymru ac mae’r gweddill yn hanes. Oni bai am Brifysgol Abertawe, ni fyddwn lle yr wyf i heddiw. Beth yw uchafbwynt eich gyrfa? Heb amheuaeth, derbyn yr e-bost gan fy nghynhyrchydd i ddweud fy mod i’n mynd i fod yn rhan o’r tîm cyflwyno ochr y cae ar gyfer rownd derfynol Cwpan y Byd 2014 ym Mrasil rhwng yr Ariannin a’r Almaen. Rydych chi wedi teithio’n helaeth yn ystod eich gyrfa. Pa un oedd eich hoff wlad? Rwsia. Teithiais ledled y wlad yn ystod rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA 2018 a chefais fy hudo yn llwyr gan yr hanes, y bensaernïaeth ysblennydd a’r bwyd arbennig.
Beth yw eich atgofion gorau am eich amser yn Abertawe?
Os ydych yn disgwyl clywed straeon am fy nyddiau gwyllt yn y brifysgol, byddwch chi’n cael eich siomi wrth siarad â mi, mae arna i ofn. Treuliais i’r rhan fwyaf o ddiwrnodau yn y llyfrgell. Roeddwn i wedi treulio’r rhan fwyaf o’m plentyndod mewn siopau llyfrau, neu yn y llyfrgell neu â fy mhen yn y copi ail law o wyddoniadur Britannica roedd fy nhad wedi’i brynu i mi pan oedd yr athrawon ar streic. Nawr roedd gen i gyfle i eistedd yn y llyfrgell yn astudio drwy’r dydd, gwyn fy myd. Roedd cyfrifiadura’n weddol sylfaenol o hyd yn y dyddiau hynny. Roedd gennym gyfrifiadur PDP 11 Unix a oedd yn caniatáu i ni fewnbynnu >Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24 Page 25 Page 26
Made with FlippingBook Learn more on our blog