Data Loading...

Wellbeing Booklet (Welsh)

367 Views
241 Downloads
3.69 MB

Twitter Facebook LinkedIn Copy link

DOWNLOAD PDF

REPORT DMCA

RECOMMEND FLIP-BOOKS

Wellbeing Booklet

open-days. KEEP IN TOUCH… We’re here for you and don’t forget to contact us if you want to discuss y

Read online »

Wellbeing Booklet - Europe

ambassador-chat KEEP IN TOUCH… We’re here for you and don’t forget to contact us if you want to disc

Read online »

Wellbeing Matters 2015

reporting. Rarely do we find ourselves sitting with nothing to do, no emails to read, no videos to w

Read online »

Wellbeing Matters 2018

reporting. Rarely do we find ourselves sitting with nothing to do, no emails to read, no videos to w

Read online »

Health & Wellbeing / Hauora

Hauora Our health & wellbeing foundations Biculturalism Christianity Positive Psychology Developed s

Read online »

Postgraduate Prospectus - WELSH

ysgol-reolaeth GYRFAOEDD POSIB: ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU: • Dadansoddwr Ariannol Masnachol • Arweiny

Read online »

Employability Student Handbook - Welsh

Llawfeddygaeth • Economeg Defnyddwyr • Seicoleg LLWYBRAU CYSYLLTIEDIG Gwasanaethau Iechyd Busnes Gwa

Read online »

Dr Laville Wellbeing Strategy 2019

17 and currently has 105 organisations taking part. There are three levels of award: BRONZE - The Br

Read online »

School of Management Welsh Undergraduate Prospectus 2021

ysgol-reolaeth ✓ Gwerthuso a dadansoddi >Page 1 Page 2-3 Page 4-5 Page 6-7 Page 8-9 Page 10-11 Page

Read online »

NTP booklet

NTP booklet NEURODIAGNOSTIC TECHNOLOGY PROGRAM Giving Individuals An Opportunity To Have A Solid Fut

Read online »

Wellbeing Booklet (Welsh)

AC ANADLWCH… BYDDWN GYDA CHI BOB CAM O’R FFORDD

@somabertawe

CYNNWYS Croeso cynnes gan bob un ohonom yn yr Ysgol Rydych chi’n wydn - clywed gan ein myfyrwyr Cyngor ar Reoli Straen a Phryder gyda BywydCampws Ein Dinas Ger y Môr Ein Tîm Profiad Myfyrwyr Awgrymiadau Euraidd ar gyfer Adeg Cyrraedd yma

2 3 5 7 9 10

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod heb ei thebyg. Mae ei phethau anhysbys, ei chyfnodau cyfyngiadau symud a’i chyfnodau ynysu wedi datgelu teimladau o bryder a thristwch mewn cynifer ohonom. Mae’r pwysau o ran cyflwyno cais i’r Brifysgol a’r newidiadau o ran sut caiff eich graddau terfynol eu pennu, wedi golygu rhagor o straen yn ystod blwyddyn sydd eisoes yn heriol iawn. Mae eich teimladau’n ddilys, rydych chi wedi bod drwy gymaint, a gobeithiwn y byddwch yn dod o hyd i gysur a chymorth yn y llyfryn hwn wrth ichi fwynhau paned. Rydym wedi gofyn i’n myfyrwyr a’n rhwydweithiau cymorth yn yr Ysgol Reolaeth i rannu eu profiadau gyda chi a chynnig cyngor ar reoli cyfnodau heriol. Er nad ydych chi wedi ymuno â ni eto, rydym am ichi wybod eich bod eisoes yn rhan o’r teulu wrth ymgeisio, ac rydym yma i’ch cefnogi. CROESO CYNNES GAN BOB UN OHONOM YN YR YSGOL

Byddwch yn ddiogel, Yr Ysgol Reolaeth

Os oes gennych gwestiynau am eich cynnig, astudio yn Abertawe neu eich graddau, cysylltwch â ni’n uniongyrchol ar [email protected].

2

RYDYCH CHI’N WYDN - CLYWED GAN EIN MYFYRWYR

Rydych chi’n gryfach nag yr ydych chi’n ei wybod. Rydych chi eisoes wedi gweithio drwy flwyddyn hynod anodd ac wedi derbyn cynnig i astudio gyda ni yn Abertawe. Fodd bynnag, mae’n ddealladwy os ydych chi’n dal i deimlo’n bryderus am eich canlyniadau a’r hyn sydd ar ddod yn y brifysgol. Nid ydych chi ar eich pen eich hun - gwnaethom ofyn i’n myfyrwyr i rannu eu profiadau o flwyddyn 2020 a rhannu eu cyngor ar gyfer dechrau yn y brifysgol yn ystod pandemig byd-eang.

Alexander Edwards, BSc Economeg (Blwyddyn Diwydiant) “Ar ddiwrnod y canlyniadau (2020), ces i ganlyniadau Safon Uwch nad oeddwn i’n eu disgwyl, a oedd yn ddigalon iawn. Fodd bynnag, siaradais i â Phrifysgol Abertawe a gwnaethon nhw helpu llawer iawn. Gwnaethon nhw dawelu fy meddwl, siarad â fi am fy opsiynau ac rydw i’n falch o ddweud fy mod i yn fy mlwyddyn gyntaf ar hyn o bryd, yn astudio Economeg. Siarad â Phrifysgol Abertawe’n uniongyrchol oedd y

peth gorau a ddigwyddodd ar ddiwrnod y canlyniadau, yn bendant.” Top Tip: “Fy nghyngor i fyddai ymaelodi â chlwb neu gymdeithas pan fyddwch yn dechrau yn Abertawe. Mae’n ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, hyd yn oed os bydd hynny’n rhithwir. Hefyd, byddwn i’n dweud wrthych chi i ‘fod yn naturiol’. Mae pawb yn yr un cwch ac wrth fod yn agored gyda ffrindiau newydd bydd yn helpu i feithrin perthnasoedd da wrth ichi ddechrau yn y brifysgol.” Chido Ranganayi, BSc Cyfrifeg a Chyllid “Fel myfyriwr rhyngwladol, roedd dod o hyd i gymuned gefnogol yn hynod o bwysig. Roedd teimlo fel fy mod yn cael fy nghefnogi a’m croesawu, yn sicr yn helpu i mi wneud fy ngorau. Diolch byth, mae Prifysgol Abertawe wedi rhoi cymorth academaidd, lles a chymunedol anhygoel i mi ers ddechrau.” Top Tip: “Yr awgrymiadau gorau sydd gennyf ar gyfer ymdopi â phrifysgol ar-lein yn ystod y pandemig, yw cymryd pob eiliad wrth iddi ddod, blaenoriaethu eich tasgau dyddiol, ac amserlennu amser i ymlacio.”

3

Molly Wyatt, BSc Marchnata “Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn gefnogol ac yn ddeallgar dros ben yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gwnaeth y Brifysgol lyfnhau’r symud o addysgu ar y safle i addysgu ar-lein. Un fantais sydd gan ddysgu ar-lein yw aros yn y gwely cyn seminar am 9am!” Top Tip: “Fy awgrym euraidd ar gyfer llwyddo ar-lein yn y brifysgol yw cynllunio eich diwrnod a gwneud yn siwr eich bod chi’n mynd allan i’r

awyr agored ar gyfer ymarfer corff bob dydd. Mae mynd am dro neu redeg bob dydd wir wedi fy helpu i ymdopi â’m hiechyd meddwl a chael seibiant o sgrîn am ychydig o oriau.”

Victoria Ioannidou, BSc Rheoli Busnes (Blwyddyn Diwydiant) “Roedd yr Ysgol Reolaeth yn gefnogol iawn yn enwedig fel myfyrwr o wlad Groeg, ac yn enwedig drwy gydol fy wythnosau cyntaf yn y brifysgol, a oedd yn hollol newydd i mi. Gwnaeth yr Ysgol gynnal digwyddiadau ar ein cyfer, er mwyn inni gwrdd â phobl ar ein cwrs, a gwnaeth roi imi’r holl arweiniad yr oedd ei angen arnaf tan imi gael fy nghefn ataf!”

Top Tip: “Mae astudio yn ystod pandemig yn gallu bod yn llawn straen ond peidiwch ag ofni bod yn agored gyda phobl a mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfforddus i chi, cael blas ar bethau newydd, gosod nodau a chymryd rhan yn yr holl gyfleoedd gwahanol sydd ar gael.”

Jalal Yousif, BSc Economeg (Blwyddyn Diwydiant) “Roedd symud i ddysgu ar-lein yn heriol ac mae’n anodd peidio â gweld ffrindiau yn y cnawd a pheidio â gallu gofyn cwestiynau i ddarlithwyr yn y cnawd. Fodd bynnag, mae darlithwyr yn hapus iawn ichi eu e-bostio’n uniongyrchol am gymorth ychwanegol, sydd wedi bod yn wych. Rydw i’n credu bod dysgu ar-lein yn gallu bod yn effeithlon drwy aros yn drefnus a chysylltu am gymorth os oes angen.”

Top Tip: “Mae’n helpu i gymryd seibiannau rheolaidd a siarad â chyfoedion. Rydyn ni’n lwcus bod gennym Swyddogion Profiad Myfyrwyr yn yr Ysgol Reolaeth - alla i ddim diolch iddynt ddigon am ofalu amdanom bob amser a threfnu llawer o ddigwyddiadau hwyl, er yn rhithwir.”

4

CYNGOR AR REOLI STRAEN A PHRYDER GYDA BYWYDCAMPWS

Mae BywydCampws ym Mhrifysgol Abertawe yn wasanaeth sy’n cynnig cyngor diduedd, anfeirniadol am ddim, a gwasanaethau cymorth i’r holl fyfyrwyr mewn amgylchedd hamddenol, cyfeillgar a chyfrinachol. Mae’r tîm yn deall bod angen eich cefnogi mewn gwahanol ffyrdd er mwyn i chi allu mwynhau eich amser yn y Brifysgol i’r eithaf. Ar y campws, byddwch yn dod o hyd iddo yn y Goleudy (Campws Singleton) a’r Hafan (Campws y Bae). Ar hyn o bryd, cynhelir ei wasanaethau ar-lein drwy Zoom a thros y ffôn. Gallwch gwrdd â’r tîm am gymorth arbenigol ynghylch popeth gan gynnwys lles, arian, byw oddi ar y campws a ffydd. Mae gwasanaethau BywydCampws yn cynnwys: •Gwasanaeth Gwrando •Cymorth myfyrio •Grwp Cymorth Profedigaeth •Cyngor ar ffydd •Cymorth arbenigol i fyfyrwyr sy’n byw oddi ar y campws y gallai fod angen cyngor ac arweiniad arnynt ynghylch byw yn y gymuned

Mandy Williams yw Rheolwraig Cymuned@BywydCampws, Mae hi wedi rhoi ei hawgrymiadau gorau isod ynghylch myfyrio er mwyn eich helpu i gael saib, myfyrio a chymryd cam yn ôl o bwysau bywyd beunyddiol. Mae llawer o fyfyrwyr yn ymarfer y rhain, ac maent yn ffordd dda o greu amser ar eich cyfer chi mewn modd ymwybodol - boed wrth godi yn y bore, yn ystod eich amser cinio neu er mwyn eich helpu i ymlacio gyda’r hwyr.

• Dewch o hyd i le tawel, ymlaciol lle ni fydd neb yn torri ar eich traws, neu dewch o hyd i rywle tawel i fynd am dro • Os bydd myfyrio’n newydd i chi, ceisiwch ddefnyddio ap myfyrio (ceir ein hawgrymiadau gorau ar y dudalen nesaf) neu ymunwch â grwp lle bydd rhywun yn eich tywys • Dechreuwch yn araf deg, 5 munud o fyfyrio y dydd yw’r cwbl y bydd ei angen arnoch i ddechrau. Diben myfyrio yw bod yn garedig i’ch hunan, Ewch yn araf deg, os byddwch yn teimlo’n bell eich meddwl canolbwyntiwch ar eich anadlu

5

CYMORTH YCHWANEGOL A LLE I DDOD O HYD IDDO

Mae llawer o apiau lles a gwasanaethau cymorth ar-lein ar gael, ond gall dod o hyd i’r platfform cywir i chi fod yn llethol. Er mwyn eich helpu i benderfynu beth sydd orau i chi, rydym wedi cynnwys rhestr o bum adnodd gwych, sy’n ddefnyddiol ac yn effeithiol yn ein barn ni. Rydym i gyd yn wahanol, felly mae’n rhaid darganfod beth sy’n gweithio orau i chi:

CYMORTH A LLES - PRIFYSGOL ABERTAWE : myuni.swansea.ac.uk/support-wellbeing

Dyma le gwych i ddechrau ac i ddeall y cymorth sydd ar gael i chi fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe. Yma byddwch yn dod o hyd i wybodaeth am arian, lles, iechyd myfyrwyr, cymorth yn ystod argyfwng a lles, i enwi rhai’n unig.

STOP BREATHE THINK: stopbreathethink.com/learn

Ymwybyddiaeth ofalgar i ddechreuwyr. Dyma’r amser i stopio am eiliad a darganfod beth byddai wir yn gallu cael effaith ar eich lles. Mae’r ap lles emosiynol hwn yn anfon negeseuon bob dydd i’ch atgoffa i gael saib, a hefyd mae’n rhannu ymarferion myfyrio gwych y gallwch eu cynnwys yn eich trefn ddyddiol.

HEADSPACE : headspace.com

Arwyddair Headspace yw: Less stressed - Llai o straen. More resilient - Mwy o wytnwch. Happier - Hapusach. Dyna beth rydym i gyd eisiau, ie? Mae’r ap hwn yn eich helpu i ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar mewn ffordd reoladwy ac mae’n rhoi awgrymiadau a thechnegau gwych ar gyfer ei chynnwys yn eich trefn ddyddiol. MIND : mind.org.uk/information-support/tips-for-everyday-living/wellbeing Elusen iechyd meddwl yw Mind, sy’n ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl. Mae’r wefan yn cynnig cyngor ymarferol, gwych ar les, ymdopi â straen a sut i geisio cymorth ychwanegol os oes angen.

6

ABERTAWE – EIN DINAS GER Y MÔR Abertawe yw’r ddinas ddelfrydol ar gyfer lleoedd agored, gweithgareddau awyr agored a thraeth euraidd, ysgubol sy’n bum milltir o hyd. Hyd yn oed os byddwn ni mewn cyfnod cyfyngiadau ar symud, a bydd angen inni gerdded o’r ty (neu weithio gartref) yn unig, nid oes modd profi lleoliad llawer gwell na hwn. Er mwyn eich helpu i gael blas ar y lle y gallai fod yn gartref i chi cyn bo hir, rydym wedi cynnwys ein lleoliadau gorau o amgylch y ddinas y mae ein myfyrwyr yn dwlu ar eu darganfod. TRAETH CAMPWS Y BAE Yma ceir y machludau haul gorau ac yn wir mae’n dafliad carreg o’r campws, rydym wedi mabwysiadu’r traeth hwn fel ein traeth ni ein hun. Yn aml, byddwch yn gweld myfyrwyr yn cael cinio ac yn ymarfer chwaraeon yn y lle prydferth hwn, yr ydym yn lwcus iawn i’w gael ar ein stepen drws yn yr Ysgol Reolaeth. MARINA ABERTAWE Lle gwych i fynd am dro, cael rhywbeth i’w fwyta neu yfed. Mae Marina Abertawe hanner ffordd rhwng Campws y Bae a Champws Singleton, ac mae pobl leol a myfyrwyr wrth eu boddau yno. Gallwch gerdded yno o ganol y ddinas ymhen 5 munud, ac mae’n gyfochrog â Thraeth Bae Abertawe. TRAETH BAE ABERTAWE Dyma draeth 5 milltir o hyd sy’n ymestyn o Farina Abertawe, yr holl ffordd i Knab Rock, y Mwmbwls. Mae’r traeth hwn yn boblogaidd iawn ymhlith myfyrwyr, ac fel arfer byddant yn treulio nosweithiau’r haf yn cael barbeciw, yn ymlacio ac yn ymarfer chwaraeon ar y

7

traeth prydferth hwn.

UPLANDS A BRYNMILL Mae’r ardaloedd hyn yn gartref i lawer o fyfyrwyr o’r 2il flwyddyn ymlaen. Gyda barau, siopau a bwytai gwych, mae ganddynt fwrlwm tref fach. 15 munud yn unig o Draeth Bae Abertawe ac yn gartref i dri pharc anhygoel; Parc Singleton, Parc Brynmill a Pharc Cwmdonkin. BYWYD Y PARC – PARCIAU SINGLETON, BRYNMILL A CHWMDONKIN Tri pharc anhygoel yn Uplands a Brynmill - gellir cerdded rhwng pob un ymhen 10 munud. Mae Parc Brynmill yn adnabyddus am ei lyn mawr, mae Parc Singleton yn lle gwyrdd enfawr ac mae’n fwyaf adnabyddus am gynnal digwyddiadau cerddoriaeth (gan gynnwys y Biggest Weekend gan Radio 1), ac mae Parc Cwmdonkin yn enwog am ei erddi a dirluniwyd a’i gysylltiadau a’r awdur lleol, Dylan Thomas, a ddisgrifiodd y parc a dirluniwyd yn “world within the world of the sea town”.

PENRHYN GWYR Gallwch gael blas ar ardal gyntaf y DU o harddwch naturiol eithriadol - 25 munud yn unig mewn car o Gampws y Bae. Dyma le mae baeau Rhosili, Oxwich, Llangennith, Caswell a Langland. Dyma rai o draethau gorau’r byd, sy’n adnabyddus am syrffio gwych a harddwch naturiol heb ei gyffwrdd. Ni fyddwch byth am adael!

8

EIN TÎM PROFIAD MYFYRWYR

Yn yr Ysgol Reolaeth, mae ein rhwydwaith cymorth yn mynd y tu hwnt i’n darlithwyr a’n tiwtoriaid. Mae ein Tîm Profiad Myfyrwyr yma i’ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau ac i helpu i wneud yn siwr eich bod yn cael y profiad gorau posibl i fyfyriwr. Mae gan y tîm lawer o brofiad wrth gefnogi myfyrwyr ac mae bob amser yno pan fydd arnoch ei angen. Cewch fynd ato ar gyfer: •eich holl anghenion lles a rhai bugeiliol •cymorth wrth ymsefydlu a dod yn rhan o’n cymuned yn yr Ysgol Reolaeth •gwaith ymgysylltu â myfyrwyr a chyfleoedd i ddefnyddio’ch llais fel myfyriwr

C: Sut gallaf gael y gorau o’m hamser yn Abertawe? A: Manteisiwch ar bopeth sydd ar gael! Gwasanaethau academaidd a chymorth, cymdeithasau a thimau chwaraeon, digwyddiadau cymdeithasol a darlithoedd gwadd, cyngor ar yrfaoedd a chymorth lles - mae cyfleoedd helaeth y tu hwnt i’r darlithoedd sydd ar eich amserlen! C: Rydw i’n cael amser ychwanegol ar gyfer arholiadau yn yr ysgol (e.e. oherwydd dyslecsia, ADHD) - a fydda i’n cael hwn yn y Brifysgol? A: Gallwn ni wneud pob math o drefniadau ar gyfer myfyrwyr ag anghenion ychwanegol, ond nid yw’n awtomatig. Siaradwch â Swyddog Profiad Myfyrwyr a’r Swyddfa Anabledd am gymorth gyda’r broses o roi addasiadau ar waith. C: Beth os bydda i’n hwyr gyda’m gwaith? A: Os ydych chi’n cael trafferth gyda modiwl, os oes gennych broblemau iechyd neu broblemau personol, neu os ydych chi’n cael trafferth wrth reoli eich amser, mae cymorth ar gael drwy’r Brifysgol. Rydym yma i helpu, felly peidiwch â theimlo cywilydd wrth ofyn. Rydym wedi gofyn i’r Swyddogion Profiad Myfyrwyr, Laura Male, Amy Genders a Peter Griffiths, i rannu eu Cwestiynau Cyffredin gyda chi, a allai dawelu eich meddwl wrth wybod bod yr un pryderon gan fyfyrwyr eraill:

AMY GENDERS

LAURA MALE

PETER GRIFFITHS

9

AWGRYMIADAU EURAIDD AR GYFER ADEG CYRRAEDD PRIFYSGOL ABERTAWE

Erbyn ichi gyrraedd Abertawe, bydd eich cofrestru a’ch llety wedi’u trefnu ond beth am y camau nesaf ar gyfer ymsefydlu yn eich bywyd newydd, cyffrous? Gwnaethom ofyn i’n cynrychiolwyr myfyrwyr, Elizabeth Lomas a Victoria Ioannidou, am eu cyngor ar yr hyn i’w wneud ar ôl ichi ein cyrraedd.

COFRESTRU GYDA MEDDYG: Nid mynd at y Meddyg Teulu ar gampws Singleton yw’r unig opsiwn – ceir Meddygfa SA1, sydd wrth yr arhosfan nesaf ar bws rhif 8 neu rif 10 YMWELD Â’R SWYDDFA GWYBODAETH MYFYRWYR: Mae’r tîm hwn yn darparu gofal bugeiliol, a chyngor ar iechyd a lles. Os nad ydych chi’n hapus am rywbeth, er enghraifft, os oes gennych bryderon am lety neu bryderon am eich cwrs - maent yna i’ch cefnogi MANNAU ASTUDIO – NID Y LLYFRGELL YN UNIG: Mae llyfrgell campws y Bae yn gallu bod yn brysur yn ystod y cyfnodau prysuraf felly gwnewch yn siwr eich bod yn edrych ar fannau astudio eraill yn yr Ysgol Reolaeth, y Neuadd Fawr, Nanhyfer ac adeiladau eraill ar draws y campws - mae llawer o le i’w ddefnyddio PEIDIWCH Â BOD OFN YMGYNGHORI Â’CH DARLITHWYR – NID ANGENFILOD MOHONYNT: Mae’n hawdd iawn mynd at ddarlithwyr yn yr Ysgol Reolaeth, ac maen nhw eisiau i chi lwyddo. Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau - maent yno i’ch helpu i lwyddo SIOPA YN YR ARCHFARCHNADOEDD: Manteisiwch i’r eithaf ar siopa ar-lein - archebwch ar y cyd â’ch cydletywyr; hefyd bydd Clicio a Chasglu ar gael ichi gyda’r prif archfarchnadoedd i gyd!

HERE TO HELP!

10

DIGWYDDIADAU AR-LEIN ARBENNIG I DDEILIAID CYNIGION Ymgysylltwch â’n darlithwyr, ein myfyrwyr presennol, a’n gwasanaethau cyflogadwyedd a chymorth myfyrwyr, ar gyfer cipolwg manwl ar eich cwrs, y gyrfaoedd sydd o’ch blaen, a bywyd myfyriwr yn Abertawe. Byddwch yn barod am eich pennod nesaf gyda’n digwyddiadau i Ddeiliaid Cynigion:

Cofrestrwch am eich lle ar ein gweminarau: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/deiliaid-cynigion

DYDD MERCHER 14/04 AM 5PM PROFIAD MYFYRWYR A CHYMORTH

DYDD MAWRTH 20/04 AM 5PM SESIWN RAGFLAS FYW CYFRIFEG A CHYLLID DYDD MERCHER 21/04 AM 5PM SESIWN RAGFLAS FYW ECONOMEG DYDD MAWRTH 27/04 AM 5PM SESIWN RAGFLAS FYW BUSNES DYDD MERCHER 28/04 AM 5PM SESIWN RAGFLAS FYW MARCHNATA DYDD IAU 29/04 AM 5PM SESIWN RAGFLAS FYW TWRISTIAETH

DYDD MERCHER 05/05 AM 5PM GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: CWRDD Â’N GRADDEDIGION

Ymunwch â’n Diwrnod Agored Rhithwir nesaf ar 8 Mai swansea.ac.uk/cy/diwrnodau-agored

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD… Rydym ni yma i chi a chofiwch gysylltu â ni os ydych chi eisiau trafod eich cynnig, eich graddau neu rywbeth arall o ran astudio yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe: [email protected].

11