Data Loading...

Employability Student Handbook - Welsh

247 Views
15 Downloads
10.48 MB

Twitter Facebook LinkedIn Copy link

DOWNLOAD PDF

REPORT DMCA

RECOMMEND FLIP-BOOKS

Employability Student Handbook - English

Finance RELATED PATHWAYS Business Public and Human Services Arts and Communication I like to lead 36

Read online »

ilc student handbook

ilc student handbook Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10

Read online »

EXPLO Online Student Handbook

their bond. The concept of “Integrity” means you are of “One Piece” - you can’t, for example, be hon

Read online »

NY Student Handbook 2022

lounges daily or when needed. 2. Dorm Jobs a. Each person will take turns cleaning their dorm buildi

Read online »

Student Handbook 2020-21

she should contact the Title IX Coordinator immediately. Any victims of sexual violence should get t

Read online »

Student Quarantine Handbook

symptoms)? Call Health and Security at 518.494.6200 to be evaluated and to determine next steps for

Read online »

EXPLO Mini Boston | Student Handbook

guardians should be advised that the Program cannot assume responsibility for monitoring all student

Read online »

Student Living Handbook Launceston 2022

Tasmania and Gadigal people of Sydney, the traditional owners of the land upon which we live and wor

Read online »

Student Living Handbook Hobart 2022

Tasmania and Gadigal people of Sydney, the traditional owners of the land upon which we live and wor

Read online »

Student Living Handbook West Park 2022

Tasmania and Gadigal people of Sydney, the traditional owners of the land upon which we live and wor

Read online »

Employability Student Handbook - Welsh

Cyflogadwyedd LLAWLYFR MYFYRWYR

1

Mae gan yr Ysgol Reolaeth Dîm Cyflogadwyedd pwrpasol sy’n cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr o’r eiliad y byddant yn ymuno â Phrifysgol Abertawe. Fe’i lleolir yn yr Hyb Cyflogadwyedd, ac rydym wrth law i helpu gyda nifer o gyfleoedd o Brofiad Gwaith, Blwyddyn mewn Diwydiant, Rolau i Raddedigion a mwy. Mae ein tîm yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth proffesiynol a phwrpasol i bob myfyrwyr mewn amgylchedd cyffyrddus. Mae 98% o’r myfyrwyr sydd wedi defnyddio ein gwasanaeth yn dweud ein bod ni wedi gwneud gwahaniaeth i’w profiad yn y brifysgol. Mae croeso i chi ymweld â ni yn yr Hyb drwy alw heibio neu drefnu apwyntiad. Byddwn yn teilwra apwyntiadau i’ch anghenion chi, ac yn cynnwys sawl agwedd, megis: CWRDD Â’N tîm

98% O’R MYFYRWYR SYDD WEDI DEFNYDDIO EIN GWASANAETH YN DWEUD EIN BOD NI WEDI GWNEUD GWAHANIAETH I’W PROFIAD YN Y BRIFYSGOL *Arolwg adborth Apwyntiad Gyrfa 2018 MAE

CYNNWYS 04 Gwefannau a Manylion Cyswllt Defnyddiol

06 Amserlen Gyrfaoedd

08 Blwyddyn Mewn Diwydiant

11 CV Eglurhaol

13 Templed Llythyr Eglurhaol

15 Hunan

Ymwybyddiaeth

16 Linkedin

18 Gwybod Eich Cryfderau

20 Cyfweliadau Dros Skype a Fideo 24 Prosesau Recriwtio Arall

• Cymorth gwneud cais ar bob cam • Ffug gyfweliadau • Cymorth Blwyddyn mewn Diwydiant • Cefnogaeth Astudio Dramor • Gwaith Rhan-amser • Interniaethau dros yr Haf • Swyddi i Raddedigion

25 Modiwl sgiliau cyflogadwyedd

Oriau Agor: 9am – 5pm, dydd Llun – dydd Gwener I drefnu apwyntiad: [email protected] [email protected] [email protected]

26 Astudio Dramor

Mae ein tîm yn cynnig apwyntiadau gydag Ymgynghorwyr Cyflogadwyedd a Chydlynwyr Cyflogadwyedd. Bydd pob cam o’r prosesau recriwtio yn cael eu cynnwys, o CV, Llythyron Eglurhaol, Cyfweliadau, Profion Ar-lein, Gemeiddio, Profion Seicometrig, Canolfannau Asesu ac yn y blaen. Hyd yn oed os nad ydych chi’n siwˆ r am yr hyn yr hoffech ei drafod ac mae’n fater o wybod pa opsiynau gwahanol sydd ar gael, mae croeso cynnes i chi alw heibio am sgwrs! Bydd yr holl apwyntiadau’n gyfrinachol ar bob adeg a gall myfyrwyr naill ai ddod i apwyntiad yn yr Hyb Cyflogadwyedd neu mewn un o’n hystafelloedd ymgynghori. Rhowch wybod i ni’r hyn sy’n well gennych.

2

3

CYFLOGADWYEDD YR YSGOL REOLAETH GWEFANNAU A MANYLION CYSWLLT DEFNYDDIOL OS YDYCH CHI AM YMCHWILIO I SWYDDI POSIB YN EICH AMSER EICH HUN, MAE’R GWEFANNAU ISOD YN FAN CYCHWYN GWYCH:

GRADDIARY.COM

TOP100GRADUATEEMPLOYERS.COM

STUDENTBEANS.COM/UK

ASSESSMENTDAY.CO.UK

TARGETJOBS.CO.UK/UK300

RATEMYPLACEMENT.CO.UK

LINKEDIN.COM

SHORTLIST.ME

TARGETJOBS.CO.UK

PROSPECTS.AC.UK

SOM CAREERS FACEBOOK GROUP

POSTSTUDY.ORG

EMPLOYMENTZONE. JOBTEASER.COM

GLASSDOOR.CO.UK

Os ydych chi’n cael anawsterau, neu mae angen cymorth ychwanegol arnoch yn ystod eich amser gyda ni, cysylltwch. Yn yr Ysgol Reolaeth, mae gennym dîm pwrpasol o Swyddogion Profiad Myfyrwyr sydd yma i’ch helpu chi a sicrhau eich bod chi’n mwynhau eich amser yma yn Abertawe gymaint â phosib!

BRIGHTNETWORK.CO.UK

STUDENTCIRCUS.COM Mae hwn ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol yn benodol

[email protected] [email protected] [email protected] [email protected]

4

5

AMSERLEN Gyrfaoedd DEWCH I YMWELD Â NI YN YR HYB CYFLOGADWYEDD AM APWYNTIAD UNIGOL CYN GYNTED AG Y BYDDWCH YN DECHRAU YN Y BRIFYSGOL I WNEUD Y MWYAF O’N GWASANAETHAU!

BLWYDDYN GYNTAF Y BRIFYSGOL Gallwch ymweld â ni cyn gynted ag y byddwch yn dechrau yn y Brifysgol. Dyma gyfle da i ddechrau chwilio am gyfleoedd am brofiad gwaith neu swyddi rhan-amser i ychwanegu at eich CV.

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer y Modiwl Cyflogadwyedd .

MEDI

Part Time Ffair Swyddi

Gallwch hefyd ddewis blwyddyn Astudio Dramor – rhowch wybod i’n tîm a gwnewch yn siwˆ r eich bod chi’n cael marc cyfartalog o 50% y flwyddyn hon i fod yn gymwys!

Paratowch eich CV a’ch Llythyron Eglurhaol yn barod ar gyfer y digwyddiadau allweddol hyn. Cofrestrwch ar gyfer y Modiwl Cyflogadwyedd ym mis Medi os ydych chi hefyd yn ystyried gwneud Blwyddyn mewn Diwydiant neu am wella eich sgiliau!

Ffair Yrfaoedd

HYD

AIL FLWYDDYN Y BRIFYSGOL

Os oes diddordeb gennych chi mewn gwneud Blwyddyn mewn Diwydiant, gallwch ddechrau cyflwyno ceisiadau nawr . Gwnewch yn siwˆ r eich bod yn cwblhau ac yn llwyddo yn y Modiwl Cyflogadwyedd cyn i chi orffen y flwyddyn hon! Fel arall, gallwch drefnu apwyntiad i’n gweld ni am unrhyw beth sy’n gysylltiedig â Chyflogadwyedd. Astudio Dramor—byddwch yn dechrau gwneud dewisiadau ynghylch ble hoffech chi fynd. Cadwch lygad ar eich e-bost am

TACH RHAG

Cadwch lygad ar eich ceisiadau a chynlluniwch o flaen llaw cyn bod dyddiadau cau ac arholiadau yn cyrraedd!

ION

Pan fydd eich arholiadau wedi gorffen, gallwch drefnu apwyntiad unigol arall gyda’r Tîm Cyflogadwyedd, os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny, i gael cymorth gyda cheisiadau neu gyfweliadau.

ddiweddariadau a rhaid cael marciau cyfartalog o 50%.

CHWE

Dyma eich ail gyfle i ddewis y Modiwl Cyflogadwyedd yn Semester dau, a fydd yn cynnig Ffug Gyfweliadau gyda chwmnïoedd go iawn a mwy!

TRYDEDD FLWYDDYN YN Y BRIFYSGOL Dyma’r flwyddyn pan fyddwch yn cwblhau’ch lleoliad gwaith neu’ch lleoliad astudio dramor , pan gewch gymorth drwy gydol y flwyddyn. Neu, os dyma’ch blwyddyn olaf, dewch i’n gweld ni am gymorth i sicrhau rolau ar ôl graddio!

MAW MEH

Dewch i ymweld â ni ar gyfer sesiynau pwrpa- sol a chadw llygad ar ddigwyddiadau cyflogwyr, digwyddiadau rhwydweithio, etc.

MEH MEDI

Daliwch ati! Mae cyfleoedd dros yr haf o hyd i gael lleoliad neu swydd i raddedigion!

6

7

YSTYRIED BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT • Ymweld â ni yn yr Hyb Cyflogadwyedd • Cofrestrwch ar gyfer y Modiwl Cyflogadwyedd • Trefnwch apwyntiad gyda’r Ymgynghorwr Cyflogadwyedd i drefnu eich • opsiynau a sut i ymgeisio • Mewngofnodwch i Blackboard i weld y swyddi gwag sydd ar gael fel man cychwyn, ac ymunwch â’n grwˆp Facebook • Crëwch daenlen i gadw cofnod o’ch ceisiadau, e.e. â phwy rydych chi wedi ymgeisio, disgrifiadau swyddi, etc. • Dewch i’n Ffair Yrfaoedd, Ffair Swyddi Rhan-amser a Digwyddiadau Cyflogadwyedd drwy gydol y flwyddyn Y CAM GWNEUD CAIS • Gall y broses gwneud cais ddechrau ar ddechrau eich ail flwyddyn • Daliwch ati i wneud ceisiadau am swyddi drwy gydol y flwyddyn • Gallwch gadarnhau Blwyddyn mewn Diwydiant ar unrhyw adeg tan adeg cofrestru ar gyfer y flwyddyn ddilynol • Gwiriwch eich e-byst am swyddi gwag ‘Lleoliad yr Wythnos’ rheolaidd a swyddi arbennig ar gyfer yr Ysgol Reolaeth • Manteisiwch i’r eithaf ar ein gwasanaeth Cyflogadwyedd. Does dim cyfyngiad ar nifer yr apwyntiadau y gallwch eu cael gyda’n tîm • Cymerwch ran yn ein sesiynau ffug gyfweliad, ac ewch i’n ffug ganolfannau asesu neu apwyntiadau pwrpasol i’ch paratoi ar gyfer pob cam o’r broses recriwtio DERBYN CYNNIG O FLWYDDYN MEWN DIWYDIANT • Rhaid i chi ddweud wrth y tîm Cyflogadwyedd pan fyddwch yn derbyn cynnig • Cwblhewch yr holl ddogfennau a roddir i chi gan y tîm Cyflogadwyedd • Casglwch becyn gofal gan yr Hyb Cyflogadwyedd • Byddwn yn cysylltu â chi os oes problemau gyda’ch dogfennau • Dechreuwch chwilio am lety os yw hynny’n briodol. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw gwneud trefniadau personol YN YSTOD EICH BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT • Rhaid cofrestru ar-lein ym mis Medi ym Mhrifysgol Abertawe • Sicrhewch fod eich cyfeiriad yn ystod y tymor a’ch manylion cyswllt wedi’u diweddaru • Sicrhewch fod gennych gopi o’r llawlyfr Blwyddyn mewn Diwydiant • Parhewch i wirio eich e-byst gan y bydd eich Cydlynydd Cyflogadwyedd yn cysylltu â chi drwy e-bost prifysgol • Byddwch yn cael galwadau misol gyda’ch Cydlynydd a gallwch gysylltu ag ef unrhyw bryd • Fel rhan o’ch Blwyddyn mewn Diwydiant, rhaid cwblhau’r asesiadau a amlinellir yn y llawlyfr. Eich cyfrifoldeb chi yw cwblhau gwaith erbyn y dyddiadau a bennwyd CWBLHAU EICH BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT • Gwiriwch eich canlyniadau ar ddiwrnod canlyniadau i sicrhau eich bod chi wedi llwyddo • Cofrestrwch ar gyfer eich Blwyddyn Olaf ym Mhrifysgol Abertawe • Ewch i’r digwyddiad ‘Croeso nôl’ i gwrdd â myfyrwyr eraill sy’n dychwelyd a’r Tîm Cyflogadwyedd • Ceisiadau ar gyfer Ymgynghorwyr Cyflogadwyedd Myfyrwyr – gwiriwch eich e-byst prifysgol am ragor o wybodaeth am hyn

CYFLEOEDD PROFIAD GWAITH Drwy gydol eich amser yn y Brifysgol, mae llawer o gyfleoedd i chi ennill sgiliau trosglwyddadwy a phrofiadau y gallwch eu defnyddio ar Flwyddyn mewn Diwydiant neu swydd i raddedigion. Gall hyn fod ar ffurf profiadau gwaith byr, Interniaethau dros yr haf neu Swyddi Rhan-amser. Gwnewch yn siwˆ r eich bod chi’n blaenoriaethu eich gwaith academaidd, ond os bydd gennych y cyfle, gallwch fanteisio ar yr opsiynau hyn pan fydd yn gyfleus i chi. Trefnwch apwyntiad i drafod y cyfleoedd hyn drwy ymweld â’r Hyb

Cyflogadwyedd neu e-bostio [email protected]

CYNLLUN MENTORA

Mae’r Cynllun Mentora yn gyfle gwych arall i chi ychwanegu at eich profiad ac at eich CV. Mae’r Cynllun Mentora yn eich galluogi chi i gael eich paru â chyflogwr go iawn a fydd yn gallu cynnig cyngor ac arweiniad o ran Cyflogadwyedd. Mae hwn yn gyfle gwych i wrando ar arbenigwyr diwydiant, dysgu am eich sector a datblygu eich rhwydwaith. Yn ogystal, mae llawer o fentoriaid yn cynnig cyfle i’w cysgodi yn y gweithle. Bydd rhai sesiynau hyfforddi y mae’n rhaid i chi eu mynychu cyn dechrau ar y Cynllun ac, os oes diddordeb gennych, e-bostiwch [email protected]

• Ewch i’r Gwobrau Cyflogadwyedd am noson o ddathlu • Cysylltwch ar Graduway i rwydweithio â chyn-fyfyrwyr

8

9

CV AC AWGRYMIADAU EURAIDD Y LLYTHYR EGLURHAOL

Eglurhaol

YR HYN SY’N DDA

YR HYN SY’N DDRWG Peidiwch â dweud celwydd Byddwch yn onest ac yn wrthrychol. Efallai y gofynnir cwestiynau manwl i chi am eich CV yn ystod y cyfweliad. Peidiwch â defnyddio’r un CV ar gyfer pob cais am swydd – MAE ANGEN TEILWRA!

Dylech deilwra eich CV yn unol â phob swydd benodol. Gwiriwch fanylion CV da yn eich sector chi.

Parwch y sgiliau sydd gennych â'r sgiliau mae'r cyflogwr yn chwilio amdanynt. Hynny yw, darllenwch y disgrifiad swydd. Gwnewch yn si w ˆ r ei fod yn HAWDD EI DDARLLEN. Bydd CV deniadol yn denu sylw. Rhowch sylw i sillafu a gramadeg: Efallai na fydd eich CV yn cyrraedd y rownd nesaf os oes gwallau ynddo. Rhowch enghreifftiau penodol er mwyn arddangos eich sgiliau. Cofiwch: pwy, beth, pryd a sut. Gofynnwch i rywun DDARLLEN DROS eich CV cyn i chi gyflwyno eich cais.

Peidiwch ag ysgrifennu ‘curriculum vitae’ ar frig eich CV.

Peidiwch ag ysgrifennu brawddegau disgrifiadol hir – byddwch yn gryno ac yn economaidd gyda’ch geiriau. Peidiwch â bod yn negyddol. Ceisiwch osgoi geiriau negyddol, diymhongarwch ffug neu gyfeiriadau e-bost amhriodol. Peidiwch â chynnwys ffotograff oni bai eich bod yn gwneud cais am swydd fel model neu actor.

YMWELWCH Â NI YN YR HYB CYFLOGADWYEDD AM APWYNTIAD UN I UN YN SYTH AR ÔL ICHI DDECHRAU YN Y BRIFYSGOL I WNEUD Y MWYAF O’N GWASANAETHAU!

ISDEITLAU A STRWYTHUR Y CV Does dim templed cyffredinol i bawb pan ddaw i lunio CV. Gall yr hyn rydych chi’n ei gynnwys ac yn ei hepgor newid, yn seiliedig ar y swydd dan sylw.

• Manylion Personol • Proffil • Addysg

• Profiad Gwaith Perthnasol • Sgiliau a Chyflawniadau • Gwybodaeth Ychwanegol neu swyddi â chyfrifoldeb • Diddordebau • Geirdaon CYNGOR DA AR GYFER YSGRIFENNU DATGANIAD PERSONOL/PROFFIL • Byddwch yn gryno: Ceisiwch osgoi disgrifiadau hir a gwnewch y datganiad yn fachog ac yn llawn gwybodaeth. • Ysgrifennwch rhwng 50 ac uchafswm o 200 o eiriau. • Os oes digon o le gennych, defnyddiwch fwlch 1.5 rhwng llinellau i’w gwneud hi’n haws darllen y datganiad. • Cofiwch gyfeirio at y fanyleb swydd a’r disgrifiad swydd mewn datganiad a luniwyd yn dda. • Darllenwch eich proffil yn uchel i sicrhau ei fod yn darllen yn naturiol. • Peidiwch â defnyddio’r person cyntaf a’r trydydd person yn yr un frawddeg.

10

11

Y peth cyntaf y bydd darpar gyflogwr yn ei weld yn eich cais am swydd fydd y llythyr eglurhaol. Nid yw hyn yn cefnogi eich CV yn unig – mae’n gyfle i chi ddisgleirio ymhlith y dorf a dwyn perswâd ar y recriwtiwr i’ch cynnwys yn y rownd nesaf. Byddwch yn effro i beryglon treulio oriau yn perffeithio eich CV ar draul cynnwys eich llythyr eglurhaol. Mae llythyr eglurhaol yn gyfle i chi arddangos sut mae eich sgiliau a’ch profiad yn paru â’r swydd ond y cwmni’n gyffredinol hefyd. Yn eich llythyr eglurhaol, dylech chi fod yn dangos eich gwybodaeth am y sector diwydiant a chysylltu hyn yn barhaus â sgiliau’r rôl rydych chi’n gwneud cais amdani. Gan fod cyflogwyr yn derbyn nifer fawr iawn o geisiadau’n aml iawn ar gyfer pob swydd wag, mae angen i chi sicrhau y bydd eich llythyr eglurhaol yn creu argraff barhaus. Templed

LLYTHYR EGLURHAOL

1. Byddwch yn gryno ac yn fanwl – ysgrifennwch ochr A4 yn unig.

2. Defnyddiwch yr un papur gwyn plaen o safon a wnaethoch i argraffu eich CV. 3. Cofiwch gynnwys enw cyswllt lle bynnag y bo modd i ddangos eich bod wedi’i anfon ato/atynt yn bersonol. 4. Gwnewch eich sgiliau’n berthnasol i’r hysbyseb swydd a chrëwch achos cryf dros pam y dylai’r cyflogwr gwrdd â chi. 5. Prawf-ddarllenwch – sicrhewch eich bod chi bob tro yn gwirio eich sillafu a’ch gramadeg heb ddibynnu ar raglen gwirio sillafu cyfrifiadurol. 6. Targedwch y cwmni drwy deilwra eich llythyr eglurhaol ar gyfer pob cais. 7. Dylai cynllun y dudalen fod yn hawdd edrych arno, ac wedi’i gynllunio gyda’r gynulleidfa mewn cof. 8. Gwiriwch fod enw’r cwmni a manylion allweddol eraill yn gywir. 9. Darllenwch y gwaith, gan ddileu geiriau neu frawddegau diangen. 10. Os ydych chi’n ei anfon yn electronig, rhowch y testun yng nghorff yr e-bost yn hytrach na mewn atodiad er mwyn atal hidlwyr sothach rhag ei ddatgelu. 11. Defnyddiwch eich geiriau chi, gan osgoi jargon a hen drawiadau ffurfiol.

11 rheol Llythyr Eglurhaol llwyddiannus:

CEIR LLYTHYR EGLURHAOL ENGHREIFFTIOL AR Y DUDALEN GANLYNOL

12

13

Hunan YMWYBYDDIAETH

Gall fod yn ddefnyddiol cwblhau Dadansoddiad ‘SWOT’ cyn dechrau ar unrhyw broses gwneud cais. Cwblhewch y templed isod i ddechrau arni.

CRYFDERAU

GWENDIDAU

Rhan o gymdeithas, gwaith rhan-amser, gradd ac ati.

Beth y gallech ei wella ? E.e. sgiliau cyflwyno, excel, ac ati.

CYFLEOEDD

BYGYTHIADAU

Oes gennych rwydwaith o gysylltiadau strategol i’ch helpu chi ? E.e. mynychu digwyddiadau rhwydweithio

Pethau nad ydych yn gallu eu rheoli, e.e. marchnad gystadleuol gyda llawer o fyfyrwyr yn ymgeisio am yr un rôl

14

15

DIFFINIADAU LINKEDIN Dyma ambell derm defnyddiol y dylech chi eu gwybod wrth ddefnyddio LinkedIn: Cysylltiadau – Cysylltiadau yw defnyddwyr cofrestredig rydych chi’n eu hadnabod yn bersonol ar LinkedIn. Er y gallwch wahodd unrhyw un i fod yn gyswllt, bydd angen iddo agor cyfrif i ddefnyddio’r wefan. Cysylltiadau eilradd – Mae’r rhain yn gysylltiadau sydd gan eich cysylltiadau chi. Er enghraifft, rydych chi’n ffrindiau gyda Bill, sydd wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â’i reolwr. Mae rheolwr Bill yn gyswllt eilradd i chi. Trydydd cyswllt – Mae unrhyw gysylltiadau o’ch cysylltiadau eilradd chi’n drydydd cysylltiadau. Felly byddai cysylltiadau rheolwr Bil yn drydydd cysylltiadau i chi. Tudalen proffil – dyma eich tudalen bersonol ar LinkedIn. Gall pob defnyddiwr cofrestredig ar LinkedIn ei gweld (oni bai y byddwch yn ei gosod fel tudalen breifat). Gallwch restru eich addysg, eich hanes gwaith, eich prosiectau presennol a blaenorol, eich grwpiau a’ch cymdeithasau a mwy ar eich proffil. Gall defnyddwyr hefyd anfon eich tudalen proffil ymlaen at gysylltiadau ar eu rhestrau. Gallwch hefyd wneud eich tudalen proffil yn un “gyhoeddus” fel y gall unrhyw un (hyd yn oed pobl nad ydynt ar LinkedIn) ei gweld. Argymhellion – Gall eich cysylltiadau ysgrifennu argymhellion, neu eirdaon, ar gyfer eich proffil. Gall y rhain fod yn arf pwerus i’ch busnes a’ch sgiliau proffesiynol. Cyflwyniadau – Cyflwyniadau yw pan fydd trydydd parti yn cyflwyno dau berson nad ydynt wedi’u cysylltu ar hyn o bryd. Er enghraifft, nid yw eich cydweithiwr Sue a’ch cleient Dan yn adnabod ei gilydd. Rydych chi’n meddwl y gallai Sue ddatrys problem sydd gan Dan yn un o’i brosiectau, felly rydych chi’n cyflwyno Sue a Dan drwy LinkedIn. Mae cyflwyniadau’n ffordd syml o ddod â phobl ynghyd ar y wefan.

DEFNYDD PROFFESIYNOL Mae llawer o ffyrdd i ddefnyddio LinkedIn i’ch helpu i dyfu’n broffesiynol. Rhwydweithio – mae LinkedIn yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio i bobl a sefydliadau proffesiynol yn eich diwydiant chi. Mae’n eich helpu i ddilyn y diweddaraf yn nhueddiadau eich diwydiant a rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n gwneud gwaith tebyg i chi. Yn ychwanegol at rwydweithio â phobl yn eich rhwydwaith estynedig ar LinkedIn, gallwch hefyd sefydlu ac ymuno â grwpiau penodol i drafod syniadau a rhannu newyddion y diwydiant. Mae’n ffordd wych o ddatblygu eich rhwydwaith proffesiynol ymhellach. Gofyn ac ateb cwestiynau – Mae llawer o bobl yn defnyddio’r grwpiau ar LinkedIn fel math o felin drafod neu sesiynau sbarduno syniadau agored. Drwy gynnig eich arbenigedd i bobl yn eich rhwydwaith, rydych chi’n meithrin ymddiriedaeth ac yn gwella eich enw da fel arbenigwr. Gallwch hefyd ddefnyddio diweddariad statws eich proffil i ofyn cwestiynau i bobl yn eich rhwydwaith, neu rannu newyddion neu gyngor. (Mae’ch ffrwd statws ar LinkedIn yn gweithio mewn ffordd debyg i Twitter®.) Ymchwil – Gallwch ddefnyddio LinkedIn i gael rhagor o wybodaeth am y bobl a’r sefydliadau rydych chi’n gwneud busnes â nhw. Er enghraifft, dychmygwch eich bod chi ar fin cwrdd â chleient posib pwysig. Rydych chi’n gwneud chwiliad cyflym ar LinkedIn ac yn dysgu yr aeth yr unigolyn hwnnw i’r un brifysgol â chi. Mewn gwirionedd, rydych chi’n adnabod llawer o’r un bobl. Nawr, mae gennych bwnc gwerthfawr i sbarduno sgwrs a fydd yn eich helpu i feithrin perthynas â’r cleient. Arf chwilio am swyddi – Ychwanegwch eich diddordebau gyrfa personol i’r offeryn hwn a chaiff swyddi eu hargymell i chi. Po fwyaf byddwch chi’n defnyddio’r swyddogaeth hon, mwyaf perthnasol fydd y swyddi sy’n cael eu hargymell. Gallwch hefyd ddewis botwm i roi gwybod i recriwtwyr eich bod chi’n agored i ystyried mathau penodol o swyddi.

GWEFAN RHWYDWEITHIO CYMDEITHASOL I FUSNESAU. MAE’N HELPU POBL I RWYDWEITHIO A GELLIR EI DDEFNYDDIO AM DDIM. MAE’R WEFAN YN EICH HELPU I DDOD O HYD I GYSYLLTIADAU BUSNES ERAILL, CLEIENTIAID A CHYDWEITHWYR RYDYCH CHI EISOES YN EU HADNABOD. BYDDWCH YN “CYSYLLTU” Â NHW DRWY’R WEFAN, AC YNA BYDDANT YN RHAN O’CH RHWYDWAITH. Pan fyddwch chi wedi cysylltu ag unigolyn, bydd gennych fynediad at restr eu cysylltiadau nhw. Gelwir hyn yn “rhwydwaith estynedig.” Gallwch wneud cais i gael eich cyflwyno i bobl yn eich rhwydwaith estynedig drwy eich cyswllt cyffredin. Yn ogystal, mae LinkedIn hefyd yn darparu nodweddion sy’n cynnwys y gallu i ddechrau ac ymuno â grwpiau, ac adran swyddi lle gall aelodau hysbysebu swyddi gwag neu wneud cais am swydd.

16

17

GWYBOD EICH CRYFDERAU

CANLUNIADAU Y PRAWF RIASEC Pa Lwybr Gyrfa sy'n iawn i chi?

Dilynwch y camau hawdd hyn i weld ble mae'ch diddordebau chi. 1 Darllenwch bob datganiad. Os ydych chi'n cytuno â'r datganiad hwn, llenwch y cylch. Nid oes atebion anghywir! Y PRAWF RIASEC Pa Lwybr Gyrfa sy'n iawn i chi?

R = REALISTIG Mae'r bobl hyn fel arfer yn dda mewn swyddi mecanyddol neu athletaidd. Byddai awgrymiadau ar gyfer pobl realistig yn cynnwys...

S = CYMDEITHASOL Mae'r bobl hyn yn hoffi gweithio gyda phobl eraill, yn hytrach na chyda phethau. Mae awgrymiadau ar gyfer pobl Gymdeithasol yn cynnwys....

Rwy'n hoffi rhoi pethau at ei gilydd Rwy'n unigolyn creadigol Rwy'n talu sylw at fanylion Rwy'n hoffi ffeilio neu deipio Rwy'n hoffi dadansoddi pethau (problemau/sefyllfaoedd)

22.

Rwy'n hoffi gweithio ar geir Rwy'n hoffi gwneud posau Rwy'n dda wrth weithio'n annibynnol

1. 2. 3.

• Amaethyddiaeth • Cynorthwy-ydd Iechyd • Cyfrifiaduron • Adeiladu • Mecanydd/Peiriannydd • Peirianneg • Bwyd a Lletygarwch

• Cwnsela • Nyrsio • Therapi Corfforol • Teithio • Hysbysebu • Cysylltiadau Cyhoeddus • Addysg

23. 24. 25. 26.

Rwy'n hoffi gweithio mewn tîm

4.

Rwy'n unigolyn uchelgeisiol, rwy'n gosod nodau i fi fy hun Rwy'n hoffi trefnu pethau (ffeiliau, desgiau/swyddfeydd) Rwy'n hoffi adeiladu pethau Rwy'n hoffi darllen am gelf a cherddoriaeth Rwy'n hoffi cael cyfarwyddiadau clir i'w dilyn Rwy'n hoffi ceisio dylanwadu neu ddwyn perswâd ar bobl Rwy'n hoffi gwneud arbrofion Rwy'n hoffi addysgu neu hyfforddi pobl eraill Rwy'n hoff o geisio helpu pobl i ddatrys eu problemau Rwy'n hoffi gofalu am anifeiliaid Byddwn i'n fodlongweithio8awr bobdyddmewn swyddfa Rwy'n hoffi gwerthu pethau Rwy'n mwynhau ysgrifennu creadigol Rwy'n mwynhau gwyddoniaeth Rwy'n gyflym i gymryd cyfrifoldebau newydd Mae gen i ddiddordeb mewn iacháu pobl Rwy'n mwynhau ceisio deall sut mae pethau'n gweithio

5.

Rwy'n hoffi chwarae offerynnau neu ganu

27.

6.

Rwy'n mwynhau dysgu am ddiwylliannau eraill Hoffwn sefydlu fy musnes fy hun

28.

7. 8.

LLWYBRAU CYSYLLTIEDIG Adnoddau Naturiol Gwasanaethau Iechyd Technoleg Ddiwydiannol a Pheirianyddol Y Celfyddydau a Chyfathrebu

LLWYBRAU CYSYLLTIEDIG Gwasanaethau Iechyd Gwasanaethau Cyhoeddus a Dynol

29. 30. 31. 32. 33.

Rwy'n hoffi coginio

Rwy'n hoffi actio mewn dramâu Rwy'n unigolyn ymarferol Rwy'n hoffi gweithio gyda rhifau neu siartiau Rwy'n hoff o drafod materion Rwy'n dda yn cadw cofnod o'm gwaith

9.

10.

I = ARCHWILIOL Mae'r bobl hyn yn hoffi gwylio, dysgu, dadan- soddi a datrys problemau. Mae awgrymiadau ar gyfer pobl Archwiliol yn cynnwys…

E = MENTRUS Mae'r bobl hyn yn hoffi gweithio gydag eraill ac yn mwynhau dwyn perswâd a pherfformio. Mae awgrymiadau ar gyfer pobl Fentrus yn cynnwys....

34. 35.

11. 12.

Rwy'n hoffi arwain

36. 37.

13.

Rwy'n hoffi gweithio yn yr awyr agored Hoffwn i weithio mewn swyddfa Rwy'n dda gyda mathemateg Rwy'n hoffi helpu pobl Rwy'n hoffi darlunio Rwy'n hoffi rhoi areithiau

• Bioleg y Môr • Peirianneg

14. 15.

• Marsiandïaeth ffasiwn • Eiddo tiriog • Marchnata/Gwerthu • Y Gyfraith • Gwyddoniaeth Wleidyddol • Masnach ryngwladol • Bancio/Cyllid LLWYBRAU CYSYLLTIEDIG Busnes Gwasanaethau Cyhoeddus a Dynol Y Celfyddydau a Chyfathrebu

38.

• Cemeg • S ŵ oleg • Meddygaeth/Llawfeddygaeth • Economeg Defnyddwyr • Seicoleg LLWYBRAU CYSYLLTIEDIG Gwasanaethau Iechyd Busnes Gwasanaethau Cyhoeddus a Dynol Technoleg Ddiwydiannol a Pheirianyddol

39. 40. 41. 42.

16. 17.

18. 19.

20.

21.

A = ARTISTIG Mae'r bobl hyn yn hoffi gweithio mewn sefyllfaoedd heb strwythur lle mae modd iddynt ddefnyddio eu gallu creadigol. Mae awgrymiadau ar gyfer pobl Artistig yn cynnwys…

C = CONFENSIYNOL Mae'r bobl hyn yn canolbwyntio ar fanylion, maent yn drefnus ac maent yn hoffi gweithio gyda >Page 1 Page 2-3 Page 4-5 Page 6-7 Page 8-9 Page 10-11 Page 12-13 Page 14-15 Page 16-17 Page 18-19 Page 20-21 Page 22-23 Page 24-25 Page 26-27 Page 28

www.swansea.ac.uk

Made with FlippingBook HTML5