Data Loading...

School of Management Welsh Undergraduate Prospectus 2021

290 Views
14 Downloads
15.97 MB

Twitter Facebook LinkedIn Copy link

DOWNLOAD PDF

REPORT DMCA

RECOMMEND FLIP-BOOKS

School of Management Undergraduate Prospectus 2021

the-college for more information. GET IN TOUCH Email: study@swansea. Tel: +44 (0)1792 295111 28 29 R

Read online »

Postgraduate Prospectus - WELSH

ysgol-reolaeth GYRFAOEDD POSIB: ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU: • Dadansoddwr Ariannol Masnachol • Arweiny

Read online »

Junior School Prospectus 2021

junior-school

Read online »

Swansea University 2021 UNDERGRADUATE prospectus English

accommodation Look inside 17 FINDING THE PERFECT PRIVATE SECTOR HOME If you’d prefer to live off cam

Read online »

Swansea University 2023 Undergraduate Prospectus

accommodation 27 FINDING THE PERFECT PRIVATE SECTOR HOME If you’d prefer to live off campus, you’ll

Read online »

Colfes School Prospectus

Colfes School Prospectus Page 1 Page 2-3 Page 4-5 Page 6-7 Page 8-9 Page 10-11 Page 12-13 Page 14-15

Read online »

The Howard School | Prospectus

sister in the same house currently attending the school and will still be on roll at the time of ent

Read online »

Deanwood Primary School | Prospectus

Leadership Team on how they are performing and carrying out their roles. 12 Hear what teachers have

Read online »

Bladon House School Prospectus 2021 2022 2

college environment Orchard End, Herefordshire • • To access community - based services and activiti

Read online »

Aran Hall School Prospectus 2021 2022

policies Complaints procedure and >Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8

Read online »

School of Management Welsh Undergraduate Prospectus 2021

PROSBECTWS 2021/22 YSGOL REOLAETH CYFRI FEG A CHYLL ID | RHEOL I BUSNES | ECONOMEG | MARCHNATA | TWRI ST IAETH

Gwobr Aur TEF - Y wobr uchaf (aur) am ragoriaeth addysgu ym mhrifysgolion y DU

Yn seiliedig ar 41,000+ o adolygiadau myfyrwyr a gasglwyd ar y cyfan

Yn seiliedig ar 41,000+ o adolygiadau myfyrwyr a gasglwyd ar y cyfan

10 (Complete University Guide 2021) Â'R CWRS 6 (Guardian University Guide 2021) 6 (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2020) (Complete University Guide 2021) FED 16 Rheoli Busnes BODDHAD FED

Cyfrifeg a Chyllid RHAGOLYGON GRADDEDIGION

Economeg BODLONRWYDD CYFFREDINOL MYFYRWYR

YN Y DU AR GYFER MARCHNATA

2

GRADDAU ACHREDEDIG MEWN AMRYWIAETH O DDISGYBLAETHAU

Cynnwys

07 GWYBODAETH I FYFYRWYR 14 GYRFAOEDD A CHYFLOGADWYEDD 24 ACHREDIAD 26 YSGOLORIAETHAU 27 YSGOL HAF 30 CYFRIFEG A CHYLLID 36 RHEOLI BUSNES

20

Mae'r neges ganlynol yn cynnwys gwybodaeth bwysig iawn. Darllenwch hi wrth i chi ddefnyddio'r prosbectws. Argraffwyd y canllaw hwn yn haf 2020. Mae'n cynnwys gwybodaeth am y rhaglenni israddedig y mae Prifysgol Abertawe'n bwriadu eu darparu i fyfyrwyr a fydd yn dechrau eu hastudiaethau prifysgol yn hydref 2021. Rydym wedi gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn ddefnyddiol ac yn gywir ar ddyddiad ei chyhoeddi. Efallai y bydd rhai newidiadau yn angenrheidiol, fodd bynnag er enghraifft i raglenni, lleoliadau astudio, cyfleusterau neu ffioedd o ganlyniad i resymau staffio, ariannol, rheoleiddiol ac academaidd dilys. Byddwn bob amser yn ymdrechu i gadw newidiadau i leiafswm ac i hysbysu darpar fyfyrwyr yn briodol. Caiff unrhyw newidiadau eu diweddaru ar dudalennau ar-lein y cyrsiau: swansea.ac.uk/cy/ israddedig/cyrsiau/ GWYBODAETH BWYSIG - ANGEN DARLLEN

BLWYDDYN MEWN

#prifysgolabertawe

48 MARCHNATA 50 TWRISTIAETH 52 ECONOMEG

@SOMABERTAWE

58 CYMWYSTERAU CYFATEBOL 59 CWESTIYNAU CYFFREDIN 60 BETH NESAF?

21

ASTUDIO

27

51

Yr Ysgol Haf YR YSGOL REOLAETH

EISIAUGWELD SUT BETH YWBYWYD PRIFYSGOL GO IAWN?

Darganfyddwch fwy yn ein Hysgol Haf

4

5

Nid yw’n gyfrinach bod Prifysgol Abertawe yn lle anhygoel i astudio: rydyn ni ymhlith y 10 prifysgol orau yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Boddhad Myfyrwyr (NSS 2020). Ar ben hynny, byddwch chi’n ymuno ag Ysgol sy’n meddu ar gyfleusterau ac addysgu o safon fyd-eang sydd wedi ysbrydoli llu o raddedigion llwyddiannus ac mae rhai ohonynt wedi’u cynnwys yn y prosbectws hwn. Wedi’i lleoli ar Gampws y Bae, mae’r Ysgol Reolaeth ymhlith y 35 orau yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Rhagolygon Gyrfa ym maes Economeg, Busnes, Rheoli a Marchnata ac mae ymhlith y 10 orau ar gyfer Cyfrifyddu a Chyllid (Guardian University Guide 2021). Darllenwch ragor am yr hyn y gall yr Ysgol Reolaeth ei gynnig i chi yn y prosbectws hwn. Mae gennym ddolenni i fideos lle bydd ein staff, ein myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr yn dweud mwy wrthych chi am eu profiadau yn Abertawe. Croeso i BRIFYSGOL ABERTAWE YR YSGOL REOLAETH

Ymhlith y 10 TREF BRIFYSGOL FWYAF FFORDDIADWY YNY Y (totallymoney.com 2019)

Lleoliad Fel dinas gosmopolitan a ffyniannus ar lan y môr, mae Abertawe'n cynnig milltiroedd o draethau arobryn ynghyd â chanol dinas bywiog llawn diwylliant. P'un a'ch bod am fynd i syrffio, mynd i ddigwyddiad barddoniaeth neu noson o gerddoriaeth fyw, gwylio gêm o rygbi neu bêl-droed neu fwynhau hufen iâ ym mharlwr enwog Joe's - Abertawe yw'r ddinas sy'n gallu cynnig y cyfan.

Fel myfyriwr, bydd gennych fynediad at amrywiaeth anhygoel o wasanaethau a chymorth:

Tîm Cyflogadwyedd Pwrpasol

Fel yr unig Ysgol yn y Brifysgol â'i thîm pwrpasol o gynghorwyr

gyrfa, byddwch yn gallu gweithio gyda thîm sy'n

ychwanegu gwerth at brofiad o brifysgol yn ôl 98% o'r myfyrwyr sydd eisoes wedi defnyddio'r gwasanaeth * .

BYWYD CAMPWS

O'r eiliad y camwch ar y campws am y tro cyntaf, bydd pob math o opsiynau ar gael i chi ar gyfer eich amser.

*Arolwg adborth Apwyntiad Gyrfa 2018

Am ragor o wybodaeth, gallwch hefyd fynd i swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

Graddau achrededig Mae nifer o'n graddau wedi'u hachredu, sy'n eich gwneud yn ddeniadol iawn i gyflogwyr y dyfodol. Cymdeithasau Mae'r Ysgol Reolaeth yn gartref i gymdeithasau myfyrwyr gwych lle gallwch gwrdd â phobl o'r un meddylfryd.

Ydych chi am astudio ar un o'r mannau gwyrdd niferus sydd ar y campws ? Dim problem.

Eisiau coffi ? Cymerwch bum munud yn un o'r sawl siop goffi ar y campws.

Mae'n 2yb ac rydych chi'n wyllt yn ceisio gorffen yr aseiniad hwnnw mae'n rhaid ei gyflwyno erbyn 9yb ac rydych chi am ddefnyddio'r llyfrgell ? Eto, dim problem.

Buddsoddwch yn eich dyfodol YN YR YSGOL REOLAETH

6

7

UNDEB Y MYFYRWYR a Chymdeiłthasau Mae cymdeithasau'n rhan annatod o'ch profiad fel myfyriwr, ac mae ymuno â chlwb neu gymdeithas yn ffordd wych o gwrdd â phobl o'r un meddylfryd a gwneud ffrindiau newydd. Gall hefyd eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy a fydd o gymorth wrth chwilio am gyflogaeth yn y dyfodol – yn enwedig os ydych yn ymgymryd â rôl arwain yn y grwp. Mae gan Brifysgol Abertawe fwy na 150 o gymdeithasau, felly mae digon i chi ddewis o'u plith. Caiff pob cymdeithas ei chynrychioli yn ystod Ffair y Glas. Gall hyn fod yn gyfle gwych i gwrdd ag aelodau presennol a chael gwybod yr hyn sydd gan bob cymdeithas i'w gynnig.

GWNEWCH EICH HUN yn gartrefol Mae gennym lawer o opsiynau llety, pob un ohonynt yn cynnig amgylchedd cyfeillgar lle gallwch ymlacio a mwynhau'ch annibyniaeth. Tafliad carreg o'r traeth, sy'n ymylu ar Benrhyn Gwyr ac yn enwog ym mhedwar ban byd, gyda'ch llety hunan-arlwyo, byddwch wrth eich bodd yn eich cartref newydd ar naill ai Campws Singleton neu Gampws y Bae, neu yn un o'n lleoliadau preswyl pwrpasol oddi ar y campws. Os ydych chi'n fyfyriwr israddedig newydd, amser llawn, mae cael llety yn warantedig (rhaid bod gennych gynnig cadarn am le yn Abertawe a rhaid gwneud cais am lety cyn 30 Mehefin).

CYMDEITHASAU GAN YR YSGOL REOLAETH: •Cyfrifeg •Busnes •Economeg •Rhwydwaith Entrepreneuriaid •Buddsoddi a Chyllid •Menywod mewn Busnes Abertawe Mae ein cymdeithasau yn trefnu a chynnal llu o ddigwyddiadau cynhwysol i bob myfyriwr drwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys cwisiau, nosweithiau pizza a ffilm, dawnsfeydd gala a gweithgareddau rhwydweithio i gwrdd ag arbenigwyr y diwydiant a chyflogwyr o'ch maes pwnc. Mae rhywbeth at ddant pawb!

Pleidleisiwyd Abertawe yn

DDINAS FWYAF CROESAWGAR,

CYFEILLGAR A DIBYNADWY'R DU (Provident UK 2018)

"Rwyf wedi ymuno â'r Gymdeithas Buddsoddi, Cymdeithas Hong Kong a'r Gymdeithas Cerddoriaeth (rwy'n canu'r piano). Byddwn yn dweud wrth unrhyw fyfyriwr ei bod yn bwysig ymuno â chymdeithas yn hytrach nag aros yn eich ystafell. Cewch eich synnu pa mor gyflym y gwnewch ffrindiau newydd!" Tak Yin Crystal Au BSc RHEOL I BUSNES GYDA BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT

Am ragor o wybodaeth, ewch i: swansea.ac.uk/cy/llety

8

9

MAE EIN GWASANAETHAU CYMORTH YN CYNNWYS:

chi RYDYM YMA I Gwyddom fod pawb angen cymorth weithiau, dyna pam mae gan yr Ysgol Reolaeth dîm Profiad Myfyrwyr pwrpasol wrth law i ddarparu cyngor ac arweiniad proffesiynol a myfyriwr-ganolog ar bob agwedd ar fywyd myfyrwyr - pryd bynnag y mae ei angen arnoch, ar unrhyw adeg drwy gydol eich astudiaethau. Os ydych yn chwilio am gyngor neu gymorth gyda materion megis cyllid, tai, perthnasoedd, iechyd meddwl a lles, eich astudiaethau neu berfformiad academaidd, gallwn eich helpu neu eich cyfeirio at yr adnoddau priodol y tu mewn a'r tu allan i'r Brifysgol. Yn ogystal â hyn, ein tîm Profiad Myfyrwyr yw'r cyswllt adrannol ar gyfer cymdeithasau myfyrwyr ein Hysgol ac mae'n cynnal calendr cymdeithasol o weithgareddau cynhwysol i gyfoethogi eich profiad myfyriwr. Maent hefyd yn gweithio'n agos â'n cynrychiolwyr myfyrwyr (y dewiswyd gan eu cyfoedion) i sicrhau y clywir eich llais, gan eich caniatáu i gyfrannu at gyfeiriad a diwylliant yr Ysgol yn y dyfodol.

IECHYD

LLES

ANABLEDD

ARIAN

LLESIANT

MYFYRWYR RHYNGWLADOL

LLWYDDIANT ACADEMAIDD

CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH

FFYDD

CYMUNED

"Fy swydd yw casglu adborth gan fyfyrwyr a'i rannu gyda staff academaidd; gan sicrhau bod pawb yn cael yr hyn y maent ei eisiau allan o'u graddau. Mae'n deimlad gwych bod yn yr ystafell pan mae'r awgrymiadau a wnewch yn cael eu gweithredu o flaen eich llygaid. Mae wir yn teimlo fel fy mod yn gwneud gwahaniaeth." Elizabeth Lomas BSc RHEOL I BUSNES (CYLL ID) , CYNRYCHIOLYDD COLEG 2019

AMRAGOR OWYBODAETH YNGLYN Â'R CYMORTH SYDD AR GAEL: swansea.ac.uk/cy/astudio/ adran-gwasanaethau-cymorth-i-fyfywyr ˆ

10

11

Chwaraeon YN ABERTAWE

Mae gan yr Ysgol Reolaeth enw da rhagorol, dyna pam y dewisais astudio yma. Ar ben hynny, rwyf wedi derbyn cymorth anhygoel gan yr Ysgol, wrth i mi reoli fy astudiaethau ac ymrwymiadau chwaraeon gyda'r Gweilch a rygbi Cymru.

Rydym yn ymfalchïo yn ein hymroddiad a'n hymrwymiad i chwaraeon a bywyd actif i bawb, o ddechreuwr i athletwr o'r radd flaenaf. Mae'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, sydd wedi'i leoli drws nesaf i'n campws Parc Singleton, yn cynnwys pwll nofio 50m, trac rhedeg, canolfan athletau dan do, campfa a llawer mwy; tra mae gan ein Campws y Bae gaeau awyr agored, neuadd chwaraeon a champfa. Gyda'n dau leoliad ar draws y ddinas, nid ydych chi byth yn bell o gampfa Chwaraeon Abertawe neu faes chwarae.

BSc CYFRI FEG A CHYLL ID CHWARAEWR RYGBI GYDAG ACADEMI ' R GWE I LCH

Ar Gampws y Bae, gwnewch y mwyaf o'r cyfleusterau canlynol:

•Y Neuadd Chwaraeon – cyfleusterau ar gyfer gweithgareddau gan gynnwys pêl-fasged, badminton, pêl-foli a saethyddiaeth •Ardal gemau aml-ddefnydd – yn ddelfrydol ar gyfer pêl-droed, rygbi a chwaraeon pêl eraill •Ystafell gardio ac ystafell codi pwysau – mae'r cyfleusterau dan do hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau

•Llogi beiciau a llwybrau loncian – i fanteisio i'r eithaf ar y lleoliad godidog

12

13

Mae'r tîm Cyflogadwyedd yn yr Ysgol yn wych a gallant helpu gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych; o gyfleoedd mentora i leoliadau a swyddi pan fyddwch yn graddio.

98% o'n myfyrwyr sy'n defnyddio ein gwasanaeth yn dweud ei fod yn ychwanegu gwerth at eu profiad yn y brifysgol *Arolwg adborth Apwyntiad Gyrfa 2018

GYRFAOEDD A

BSc ECONOMEG

Yr Ysgol Reolaeth yw'r unig Ysgol yn y Brifysgol â thîm ymroddedig o ymgynghorwyr gyrfa. Gyda hanes cryf o arwain myfyrwyr at gyflogaeth a rhwydwaith diwydiannol eang i ategu hynny, mae ein tîm Cyflogadwyedd pwrpasol yn ymrwymedig i sicrhau y cewch chi'r cymorth gorau sydd ar gael er mwyn i chi raddio gyda'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol i'ch helpu i ddechrau ar eich gyrfa ddelfrydol ar ôl graddio.

MAE'R GEFNOGAETH YN CYNNWYS: • Apwyntiadau un i un • Sesiynau grwp • Digwyddiadau rhwydweithio i gwrdd â chyflogwyr posib • Ymweld â chwmnïau i gael ysbrydoliaeth am yrfaoedd yn y dyfodol • Cymorth wrth wneud ceisiadau • Profiad gwaith • Cymorth, arweiniad a chynllunio gyrfa wedi'u teilwra

CAEL EICH MENTORA GAN WEITHIWR BUSNES PROFFESIYNOL Fel myfyriwr yn yr Ysgol Reolaeth, bydd gennych gyfle i ymgymryd â'n Cynllun Mentora Cyflogadwyedd chwe mis o hyd. Mae'r cynllun yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â mentor ym myd busnes i fagu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol a mewnwelediad gwerthfawr i'r byd gwaith. Gall eich mentor roi arweiniad gyrfa i chi a'ch helpu i wneud cysylltiadau pwysig â gweithwyr proffesiynol a chwmnïau eraill.

14

15

Roedd yn brofiad dysgu gwych. Helpodd fy lleoliad mi i ddatblygu fy sgiliau cyflwyno a gwerthu drwy gyflwyno strategaethau'n llwyddiannus i gleientiaid. Mae'r rhain yn ddefnyddiol ar gyfer fy ngwaith grŵp yn y brifysgol ac ar gyfer adeiladu fy hyder ar gyfer senarios cyfweliad.

GYDA LLEOLIAD PROFIAD GWAITH

Mae cyflogwyr yn chwilio am fwy na gradd yn unig wrth ystyried ceisiadau am swyddi gan raddedigion. Felly beth am fod ar flaen y gad yn y farchnad swyddi drwy ymgymryd â phrofiad gwaith wrth astudio ar gyfer eich gradd? Yn ystyried gweithio'n rhan-amser law yn llaw â'ch astudiaethau? Dim problem. Mae ein tîm Cyflogadwyedd yma i gynnig cymorth, rhoi arweiniad ar gyfleoedd ar gael a'ch helpu i gaffael swydd addas. Rydym yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr yn y diwydiant i sicrhau y cewch y cyfleoedd lleoliad gwaith gorau a'ch bod yn manteisio i'r eithaf ar eich profiad myfyriwr.

Bydd gennych fynediad at gyfleoedd niferus lle gallwch fagu profiad gwerthfawr a datblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol, megis: • Rhwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) • Y Rhaglen Wythnos o Waith (WoW) • Lleoliadau wedi'u hariannu gan Santander • Lleoliadau gwaith hyblyg • Astudio eich gradd gyda Blwyddyn mewn Diwydiant • Cynllun Mentora Cyflogadwyedd

BSc RHEOL I BUSNES (MENTER AC ARLOES I ) GYDA BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT ; LLEOL IAD GWAI TH HAF 2019: PENCADLYS GOOGLE , DULYN IWERDDON; SWYDD: INTERNIAETH STRATEGYDD BUSNES NEWYDD GOOGLE KICKSTART+

MAE EIN CYSYLLTIADAU Â CHYFLOGWYR YN CYNNWYS:

swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/cyfloedd-i-fyfyrwyr/gyrfaoedd

16

17

MENTER AC ARLOESI

"Rwyf wrth fy modd fy mod yn gallu gweithio ar fy angerdd o redeg fy musnes fy hun ochr yn ochr â fy astudiaethau." LUKE GREEN Myfyriwr BSc Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi)

SYLFAENYDD GOGO COFFEE Coffi cynaliadwy o Gar Clyfar sydd ag allyriadau carbon isel

"Gallaf gymhwyso popeth rwy'n ei ddysgu i fy syniad busnes yn glir, sy'n amhrisiadwy ar gyfer y dyfodol." GEORGIA EVANS Myfyriwr BSc Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi) SYLFAENYDD USHALL Cwmni ar-lein yn gwerthu ffrogiau gyda'r nos ar gyfer achlysuron arbennig "Gwnaeth fy mhrofiad ym Mhrifysgol Abertawe fireinio fy sgiliau a meithrin craffter busnes byd-eang ynof." NAMEEL BABU Myfyriwr graddedig BSc Economeg a Chyllid, 2019 SYLFAENYDD HOODI E INK Brand dillad sy'n hyrwyddo eco-gyfeillgarwch ac yn pwysleisio hunaniaeth grwp "Rwyf bob amser wedi bod eisiau gweithio i mi fy hun, i fod mor llwyddiannus ag sy'n bosib wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymdeithas; dyna pam y penderfynais astudio BSc mewn Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi) yn Abertawe." S ION WI LL IAMS Myfyriwr BSc Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

ANNOG MENTERGARWCH MYFYRWYR Mae rhedeg eich busnes eich hun yn gyffrous. Daw â'i heriau a'i lwyddiannau, a all ei wneud yn un o'r swyddi mwyaf gwobrwyol allan yna. Yn yr Ysgol Reolaeth, rydym yn helpu i ddatblygu eich busnes o gysyniad i'w wireddu drwy roi'r adnoddau i chi ddatblygu eich syniad i'w lawn botensial.

SUT RYDYM YN EICH CEFNOGI:

Mae llawer o fusnesau llwyddiannus wedi dechrau yn yr Ysgol, o gwmni coffi i fynd, i siop ddillad 'fintej' ac o fenter gymdeithasol yn helpu elusennau i fusnes meddalwedd efelychu hedfan gyda chleientiaid ar draws y byd. Ond peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig. Cymerwch gipolwg ar rai o astudiaethau achos ein myfyrwyr menter.

•Tîm cyflogadwyedd i helpu i ddatblygu eich sgiliau arwain •Hyrwyddwyr Menter i sbarduno eich diddordebau entrepreneuraidd •Mentora busnes ochr yn ochr â phartneriaid corfforaethol gyda chyfoeth o brofiad yn y diwydiant •Gweithgareddau, gweithdai a chystadlaethau i'ch helpu i sicrhau cyllid ar gyfer eich mentrau •Modiwlau cwrs i gyfoethogi eich meddylfry dentrepreneuraidd a gallu i feddwl yn feirniadol Rydym hefyd yn cynnig gradd BSc Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi) lle rydym yn cyfuno theori gydag addysgu ymarferol i'ch cefnogi drwy'r daith menter busnes - gan ddechrau gyda chynhyrchu syniadau a chynllunio busnes hyd at gyflwyno'r syniad ar gyfer cyllid a phrofi masnachu eich busnes yn y byd go iawn.

CYD-SYLFAENYDD RAVS (RETRO AND VINTAGE STORE ) Siop dillad 'fintej' ac ail-law

Os oes gennych SYNIAD BUSNES, rydym yn benderfynol o'i wneud yn LLWYDDIANT!

"Mae gan y darlithwyr yn yr Ysgol brofiad bywyd go iawn ac mae rhai hyd yn oed wedi rhedeg eu busnesau eu hunain, sy'n fuddiol iawn i ni fel myfyrwyr." NEOPHY TOS IOANNOU Myfyriwr BSc Rheoli Busnes

SYLFAENYDD MENTER PE IRIANT OFFER YSGRI FENNU ARLOESOL

18

19

Ar gael ar bob rhaglen

Ar gael ar bob rhaglen

BLWYDDYN mewn diwydiant

Mae gan yr Ysgol Reolaeth nifer o sefydliadau partner rhyngwladol lle gall myfyrwyr astudio am flwyddyn academaidd lawn.

Mae astudio dramor yn gyfle i gael profiad o ddiwylliannau newydd, cwrdd â phobl o bedwar ban byd a datblygu meddylfryd byd-eang wrth baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Mae blwyddyn mewn diwydiant yn gyfle i dreulio blwyddyn mewn cyflogaeth yn ystod eich astudiaethau i ddatblygu sgiliau, profiad a gwybodaeth i ategu'r ddamcaniaeth rydych yn ei dysgu yn y brifysgol a'ch gwneud yn fwy cyflogadwy. Byddwch yn:

"Rwy'n teimlo bod cael y cyfle i ddysgu am fusnes ar lefel ryngwladol a sylwi ar y gwahaniaethau diwylliannol sy'n bodoli mewn busnes yn rhywbeth y byddaf yn elwa'n fawr ohonof ar ôl dychwelyd i gwblhau fy mlwyddyn olaf o astudiaethau gartref, ac unwaith eto, pan fyddaf yn dechrau ar fy ngyrfa ym myd busnes. Fy nghyngor i fyfyrwyr sy'n ystyried astudio dramor fyddai achubwch ar y cyfle, yn bendant. Nid wyf erioed wedi difaru'r penderfyniad, a byddwn i'n gwneud blwyddyn arall pe bai modd!"

Derbyn cymorth pwrpasol cyn, yn ystod ac yn dilyn eich blwyddyn mewn diwydiant

Cael mynediad at gyfleoedd cenedlaethol a rhyngwladol

Cael cyflwyniad i'r farchnad recriwtio graddedigion

Ymbaratoi ar gyfer bywyd gwaith ar ôl eich gradd

"Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn darparu ystod ehangach o gyfleoedd ar ôl graddio drwy eich gwahaniaethu oddi wrth eraill a datblygu sgiliau gwerthfawr. Dangosodd fy lleoliad diwydiannol sut beth fyddai gweithio ym maes cyfrifeg a chyllid a chadarnhaodd fy nyhead i aros yn y maes." Khaled Ojra BSc CYFRI FEG A CHYLL ID GYDA BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT LLEOL IAD: SONY UK TECHNOLOGY CENTRE SWYDD: PARTNER BUSNES CYLL ID

Bethan Williams BSc RHEOL I BUSNES (CYLL ID) GYDA BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT BLWYDDYN DRAMOR: ECOLE SUPERI EURE DE COMMERCE DE RENNES YN FFRAINC

ASTUDIO

Mae ein tîm Cyflogadwyedd wrth law i gefnogi myfyrwyr i ddod o hyd i leoliad a'i sicrhau. swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/cyfleoedd-i-fyfyrwyr/blwyddyn-mewn-diwydiant

swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/cyfleoedd-i-fyfyrwyr/blwyddyn-dramor

20

21

Hyfforddiant A MYNEDIAD am ddim I FYFYRWYR ar gael

DATBLYGWCH EICH SGILIAU DIGIDOL GYDA'N

Mae'r Ysgol yn gartref i'n prosiect newydd a mwyaf cyffrous hyd yma, sef ystafell creu fideos a chynnwys digidol gwbl weithredol. P'un a'ch bod am greu cynnwys digidol ar gyfer eich prosiect blwyddyn olaf, hyrwyddo'ch busnes newydd neu ffilmio flog, mae gan yr Ystafell Gyfryngau offer o safon ddiwydiannol, ac arbenigedd meddalwedd a thechnegol i sicrhau y bydd eich cynnwys mor effeithiol â phosib. Ein Hystafell Gyfryngau yw'r amgylchedd perffaith i chi ddatblygu'r sgiliau digidol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt ac sy'n fwyfwy defnyddiol yn y gweithle – sgiliau fel datrys problemau, bod yn greadigol, llythrennedd y cyfryngau cymdeithasol a pharodrwydd i ddysgu. Caiff dros 1 biliwn o oriau fideo eu gwylio bob dydd ar YouTube yn unig, ac mae'r cyfleuster Ystafell Gyfryngau yn ddelfrydol i'ch helpu i fynnu lle yn y farchnad hon. Yr oll sydd angen i chi ei wneud yw archebu slot gyda'r tîm i ddarganfod sut y gallant eich helpu gyda'ch gwaith, derbyn hyfforddiant ar greu fideo a chynnwys creadigol!

Gyda chymorth y tîm Cyflogadwyedd, sicrheais leoliad blwyddyn gyda thîm cyfryngau mewnol yr Ysgol Reolaeth, sydd wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi, megis ffilmio ar leoliad, creu fideos a golygu, yn ogystal â dealltwriaeth o'r byd cyfryngau masnachol. A bydd pob un o'r rhain yn fy helpu i sefyll allan ymhlith y dorf wrth ymgeisio am swydd ar ôl i mi raddio. Safa Saleem BSc RHEOL I BUSNES GYDA BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT CYNORTHWYYDD YR YSTAFELL GYFRYNGAU

22

23

EIN HACHREDWYR PROFFESIYNOL

Beth yw Cwrs Achrededig? Cwrs sydd wedi'i gymeradwyo gan gorff proffesiynol perthnasol gan ei fod yn bodloni ei safonau. Mae'n amlygu'r cysylltiad agos rhwng diwydiant a'ch cwrs/gradd, gan ddod ag arferion y byd go iawn, o'r radd flaenaf i'ch astudiaethau. Gan eu bod yn cyfrif tuag at eich cymwysterau a'ch cofrestriadau, gall cyrsiau achrededig eich helpu i roi eich llwybr gyrfa dewisol ar garlam. Sut byddaf yn gwybod bod cyrsiau'r Ysgol Reolaeth wedi'u hachredu? Edrychwch ar ein tudalen we Achrediad Proffesiynol i weld gyda pha gyrff proffesiynol rydym yn gweithio a pha gyrsiau maent yn eu hachredu: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/achrediad Sylwer, i sawl proffesiwn, mae astudio cwrs achrededig yn gam cychwynnol yn unig at fod yn gwbl gymwys. Gallwch wirio gyda'r cyrff proffesiynol perthnasol am ofynion penodol eraill. ACHREDIAD Rhowch eich gyrfa ar garlam

Mae Sefydliad Siartredig Cyfrifyddion Cymru a Lloegr yn sefydliad aelodaeth

broffesiynol a sefydlwyd

Mae Cymdeithas y Cyfrifyddion Siartredig yn gorff rhyngwladol blaenllaw ar gyfer cyfrifyddion. Mae cymhwyster ACCA yn profi i gyflogwyr eich bod yn hyfedr ym mhob agwedd ar gyfrifyddiaeth.

Mae'r Sefydliad Marchnata Siartredig yn gorff proffesiynol yn y DU sy'n cynnig hyfforddiant a chymwysterau mewn Marchnata a phynciau cysylltiedig.

gan y Siarter Frenhinol ym 1880. Ei brif nod yw cynnal a hyrwyddo safon uchel o ymarfer ac ymddygiad proffesiynol yn y diwydiant cyfrifyddiaeth.

Eisiau gwybod pa achrediad sy'n berthnasol i'ch cwrs chi ? Cymerwch gipolwg ar ein cyrsiau o dudalen 30 .

Mae Sefydliad y Dadansoddwyr Ariannol Siartredig yn gymdeithas fyd-eang o ymarferwyr buddsoddi proffesiynol sy'n pennu'r safon ar gyfer rhagoriaeth yn y sector.

Y Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli yw corff proffesiynol cyfrifwyr rheoli mwyaf, a mwyaf blaenllaw'r byd. Maent yn cynhyrchu cyfrifwyr rheoli siartredig byd-eang sy'n gallu arwain sefydliadau tuag at lwyddiant cynaliadwy.

BETH YW'R MANTEISION?

Byddwch ar flaen y gad – Bydd graddau wedi'u hachredu'n broffesiynol yn eich eithrio rhag arholiadau/cymwysterau proffesiynol cam cynnar penodol, sy'n golygu y gallwch roi eich gyrfa ar garlam. Cymorth – Cofrestrwch am aelodaeth myfyrwyr a gallwch ddechrau elwa o gymorth gyrfa corff proffesiynol, yn ogystal â chysylltiadau â chyfoedion. Mae'n edrych yn dda ar eich CV ac mae'n eich helpu i baratoi ar gyfer cyflogaeth.

Y Sefydliad Rheolaeth Siartredig yw'r unig gorff proffesiynol yn y DU sy'n ymrwymedig i hybu'r safonau uchaf mewn rheolaeth a rhagoriaeth arweinyddiaeth.

24

25

Prifysgol Abertawe YSGOLORIAETHAU Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i wobrwyo rhagoriaeth academaidd, chwaraeon a cherddorol ei myfyrwyr, ac rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i helpu tuag at gostau astudio. Mae bwrsariaethau ar sail incwm ar gael hefyd, ynghyd â chyllid tuag at astudio mewn gwlad arall os ydych yn dewis gwneud hynny fel rhan o raglen radd. YSGOLORIAETHAU DATBLYGU DYFODOL YR YSGOL REOLAETH: Ynghyd â chymorth ariannol o £2,000 am flwyddyn academaidd cewch hefyd gyfle i ennill sgiliau gwerthfawr y byddant yn gwella eich gyrfa. Er enghraifft, bydd gan ddeiliaid yr Ysgoloriaeth y cyfle i gael profiad gwaith ymarferol yn yr Ysgol Reolaeth a gweithio gyda'r timau Recriwtio a Marchnata mewn sawl digwyddiad, megis Diwrnod Agored. Ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol y maent wedi derbyn cynnig lle i astudio yn yr Ysgol Reolaeth yn ystod 2021-2022** **ni fyddai unrhyw fyfyriwr sy’n derbyn Bwrsariaeth Bontio’r Undeb Ewropeaidd yn gymwys i dderbyn .Ysgoloriaeth Datblygu Dyfodol oherwydd nad oes modd ei chyfuno ag unrhyw fwrsariaeth/ysgoloriaeth arall.

£3,000 YSGOLORIAETHAU RHAGORIAETH ar gyfer AAA yn Safon Uwch* £2,000 YSGOLORIAETHAU TEI- LYNGDOD ar gyfer AAB yn Safon Uwch* HYD AT £2,000 YSGOLORIAETHAU DAT- BLYGU DYFODOL* Ar gael i fyfyrwyr israddedig rhyngwladol sydd wedi derbyn cynnig lle i astudio yn yr Ysgol Reolaeth.

Yr Ysgol Haf YR YSGOL REOLAETH

Roedd y tri diwrnod yn llawn sesiynau rhyngweithiol a oedd yn defnyddio achosion busnes go iawn a oedd yn wych wrth ddeall sut y byddai ein graddau'n berthnasol yn y byd gwaith go iawn.

Sophie Mahoney

HYD AT £5,500 PECYN YSGOLORIAETHAU CHWARAEON* £1000 YSGOLORIAETHAU RHAGORIAETH CERDDORIAETH*

•Cael rhagflas ar fywyd yn y brifysgol •Sut i sefyll allan o'r dorf, cryfhau eich datganiad personol a'ch cais UCAS •Ennill profiad drwy fynychu gweithdai wedi'u harwain gan academyddion blaenllaw •Datblygu'ch gwybodaeth a'ch sgiliau

Rydym wrth ein bodd yn ysbrydoli disgyblion ac yn eu helpu i ddilyn y llwybr cywir i Addysg Uwch. A ydych chi'n athro/ athrawes ? Pam na wnewch chi ddod ag un o'ch dosbarthiadau i'n gweld, neu adael i ni ddod i'ch ysgol neu goleg am sesiwn blasu pwnc ? Darganfod mwy

RHAGOR OWYBODAETH swansea.ac.uk/cy/israddedig/ysgoloriaethau swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ysgoloriaeth-datblygu-dyfodol Dylai myfyrwyr rhyngwladol a'r UE fynd i: swansea.ac.uk/international-students/my-finances *Telerau ac amodau yn berthnasol, ewch i: swansea.ac.uk/cy/israddedig/ysgoloriaethau

Am ragor o wybodaeth ewch i'n gwefan neu e-bostiwch ni: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ysgol-haf • [email protected]

26

27

RHESTRIR Y GRADDAU SY'N CYNNIG Y FLWYDDYN SYLFAEN ISOD: Gradd BSc Integredig gyda Blwyddyn Sylfaen - • NN4F BSc Cyfrifeg a Chyllid gyda Blwyddyn Sylfaen • N40F BSc Cyfrifeg gyda Blwyddyn Sylfaen • N10F BSc Rheoli Busnes gyda Blwyddyn Sylfaen • N32F BSc Rheoli Busnes (Dadansoddeg Busnes) gyda Blwyddyn Sylfaen • 470F BSc Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi) gyda Blwyddyn Sylfaen • N1GF BSc Rheoli Busnes (e-Fusnes) gyda Blwyddyn Sylfaen • N13F BSc Rheoli Busnes (Cyllid) gyda Blwyddyn Sylfaen • N60F BSc Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol) gyda Blwyddyn Sylfaen • N2NF BSc Rheoli Busnes (Ymgynghoriaeth Reoli) gyda Blwyddyn Sylfaen • N1NF BSc Rheoli Busnes (Marchnata) gyda Blwyddyn Sylfaen • 480F BSc Rheoli Busnes (Rheoli Gweithrediadau a Chyflenwi) gyda Blwyddyn Sylfaen • N12F BSc Rheoli Busnes (Twristiaeth) gyda Blwyddyn Sylfaen • L10F BSc Economeg gyda Blwyddyn Sylfaen • L12F BSc Economeg a Busnes gyda Blwyddyn Sylfaen • L11F BSc Economeg a Chyllid gyda Blwyddyn Sylfaen • N30F BSc Cyllid gyda Blwyddyn Sylfaen • N50F BSc Marchnata gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae'r Ysgol Reolaeth yn ymroddedig i sicrhau y bydd myfyrwyr yn cyrraedd eu potensial llawn, gan dorri ffordd ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus ym maes cyfrifeg, cyllid, busnes ac economeg. Y Flwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0) yw eich llwybr chi at radd anrhydedd yn yr Ysgol Reolaeth. Os nad ydych chi'n bodloni ein gofynion mynediad traddodiadol am fynediad uniongyrchol, gallwch ddechrau'ch gradd drwy astudio Blwyddyn Sylfaen yn y Coleg. Wrth gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen, byddwch yn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y radd. Ar gyfer yr wybodaeth ddiweddaraf am fodiwlau a chyrsiau, ewch i swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth Dylai myfyrwyr o dramor (o'r tu allan i'r UE) fynd i swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/ colegau/y-coleg am ragor o wybodaeth. CYSYLLTWCH Â NI E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295111 Dyma rai enghreifftiau o'r pynciau y byddwch yn eu hastudio yn ystod y Flwyddyn Sylfaen: •Busnes •Meddwl yn Feirniadol •Economeg •Globaleiddio •Sgiliau Dysgu a Chyfathrebu Rhyngweithiol

BLWYDDYN SYLFAEN yn y Coleg

Mae'r Coleg yn cynnig llwybrau academaidd ym Mhrifysgol Abertawe sy'n arwain at raddau israddedig. Pan fyddwch yn astudio yn y Coleg, byddwch yn fyfyriwr llawn yn y Brifysgol o ddechrau'r cwrs. Byddwch yn rhan o deulu mewn amgylchedd anffurfiol a chefnogol lle cewch eich addysgu mewn grwpiau llai. Gyda'n hathroniaeth addysgol bwrpasol a chefnogol, cewch eich annog i gyflawni'ch potensial academaidd llawn. Mae myfyrwyr o amrywiaeth o wledydd a chefndiroedd cymysg yn cyfoethogi'ch profiad myfyriwr ymhellach. Mae gan y Coleg adeilad pwrpasol ar lan y môr ar Gampws y Bae, yn agos i'r Ysgol Reolaeth. Mae hefyd neuadd breswyl 411 o ystafelloedd i fyfyrwyr y Coleg, hefyd ar Gampws y Bae.

28

29

ARBENIGEDD YMCHWIL:

•Bancio •Cyllid Corfforaethol •Cyllid Empirig •Macro-economeg Empirig •Rheoliadau Cyllid •Econometreg Cyfres Amser •Dadansoddi Ariannol Meintiol

CYFRIFEG A CHYLLID

Os hoffech yrfa gyffrous mewn sector yn ymwneud â chyfrifeg neu gyllid, efallai yn un o bedwar cwmni mawr y sector cyfrifeg (Deloitte, EY, KPMG neu PwC), mae ein hystod o raglenni israddedig yn berffaith i chi. Mae ein cyrsiau wedi'u strwythuro i ganiatáu hyblygrwydd fel eich bod yn gallu teilwra eich modiwlau, ac yn y pen draw, eich gradd, i weddu i'ch dyheadau gyrfa sy'n datblygu.

TROSOLWG YMCHWIL:

Yr Athro Alan Hawkes, Canolfan Cyllid Empiraidd Hawkes Mae'r adran yn gartref i'r athro o fri rhyngwladol, yr Athro Alan Hawkes, y daeth ei brosesau pwynt cyffrous yn enwog o dan y teitl 'Prosesau Hawkes'. Yn yr 1970au, datblygodd yr Athro Alan Hawkes gyfres o brosesau ystadegol a mathemategol a adnabyddir fel 'Prosesau Hawkes', sy'n cael eu defnyddio'n eang gan nifer o ddisgyblaethau yn enwedig ym maes cyllid. Mae rhai o heddluoedd heddiw yn defnyddio Prosesau Hawkes hefyd, i ragweld lle mae troseddau yn debygol o ddigwydd.

Wedi'u hachredu gan gyrff proffesiynol, bydd ein graddau cyfrifeg a chyllid yn eich eithrio rhag amryw o arholiadau proffesiynol pan fyddwch yn graddio, gan roi mantais i chi yn eich gyrfa ddewisol.

SGILIAU A ENILLIR:

RHI F IADOL

DATRYS PROBLEMAU

DADANSODDOL

NEGODI

CYFATHREBU

GWAI TH T ÎM

TROSOLWG MODIWL:

Eisiau gwybod mwy am Gyfrifeg a Chyllid yn Abertawe? Edrychwch ar ein tudalen we Canllaw i Gyfrifeg a Chyllid

Rhoddodd y cwrs sylfaen wybodaeth a phrofiad gwych i mi ddechrau gyrfa fel cyfrifydd a rhoddodd sawl eithriad i mi rhag arholiadau gyda phob un o'r cyrff cyfrifeg.

Cyfrifeg Fforensig - modiwl opsiynol blwyddyn olaf Darganfyddwch sut beth yw bod yn gyfrifydd fforensig, gan ganolbwyntio ar yr agwedd droseddol, archwilio a chanfod anghysondebau ariannol.

CYSYLLTWCH ÂNI E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295111 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

✓ Gwerthuso a dadansoddi >Page 1 Page 2-3 Page 4-5 Page 6-7 Page 8-9 Page 10-11 Page 12-13 Page 14-15 Page 16-17 Page 18-19 Page 20-21 Page 22-23 Page 24-25 Page 26-27 Page 28-29 Page 30-31 Page 32-33 Page 34-35 Page 36-37 Page 38-39 Page 40-41 Page 42-43 Page 44-45 Page 46-47 Page 48-49 Page 50-51 Page 52-53 Page 54-55 Page 56-57 Page 58-59 Page 60-61 Page 62-63 Page 64

www.swansea.ac.uk

Made with FlippingBook HTML5